TOCYNNAU HELOABER! AR WERTH NAWR

Prif Ddigwyddiadau

 

Prif Grwpiau Myfyrwyr

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Wythnos y Croeso yw eich cyfle i ddarganfod eich cymuned Aber, cael blas ar fywyd myfyrwyr a dod i nabod eich cartref. Mae gennym ni ddigwyddiadau lu i chi fod yn rhan ohonynt cymaint neu gyn lleied ag yr hoffech chi. Dyma eich cyfle i ddod i nabod eich cartref newydd – i gael hwyl a mwynhau’r holl gyfleoedd ar gael! Check this out
Yn ystod Wythnos y Glas, mae gennym ni amrywiaeth o bethau ar y gweill i'ch cyflwyno i fywyd yn y Brifysgol. Mae'n llond wythnos o gyfleoedd i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym ddigwyddiadau dydd, fel ein Digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch, lle y gallwch gwrdd â myfyrwyr o’r un anian, taith IKEA, a Ffair y Glas. Yn ogystal â’n digwyddiadau anhygoel gyda’r hwyr nad ydych chi am eu colli! Mae ein gweithgareddau a'n digwyddiadau i bawb, p'un ai ydych chi'n las-fyfyriwr sydd newydd adael yr ysgol, myfyriwr hyn neu'n fyfyriwr sy'n dychwelyd... mae gennym ni rywbeth at ddant pawb.
Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau i weld beth sydd ymlaen Wythnos y Croeso hon!
Mae digwyddiadau Cyfnod y Croeso (gyda’r dydd a’r hwyr) yn ffordd dda o ddod i nabod myfyrwyr Aber, gwneud ffrindiau newydd a helpu i chi deimlo’n gartrefol yn y Brifysgol. Gyda’r hyn sydd wedi’i drefnu gennym ni, bydd digonedd o gyfleoedd i chi ddarganfod eich cymuned Aber a chael llawer o hwyl wrth ei wneud!
Bydd ein holl ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar Gae y Capel (y cae y tu ôl i Undeb y Myfyrwyr a Chanolfan y Celfyddydau) oni bai fod eich tocyn yn nodi rhywle arall. Peidiwch â phoeno – fe rown ni chi ar ben ffordd.
Oes wir! Mae gennym ni amrywiaeth o ddigwyddiadau gyda’r dydd ee: Digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch lle gellir dod i nabod myfyrwyr o’r un anian, taith IKEA, a Ffair y Glas a llawer mwy! Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau i weld beth sydd ymlaen Wythnos y Croeso hon!

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at eich croesawu chi i Aberystwyth fis Medi! Bydd ein tudalen yn cael ei diweddaru gyda chyngor, digwyddiadau a blogiau rhwng nawr a dechrau’r flwyddyn academaidd. Dilynwch ni ar @UMAberSU