Cyflwyniad

Bwriad yr arolwg hwn yw i Weithwyr Cymdeithasol ei gwblhau yn ogystal â Nyrsys, Therapyddion Galwedigaethol a Seicolegwyr  a hyfforddwyd fel, ac a fu’n ymarfer fel Aseswyr Buddiannau Gorau (ABG) ac wedi’u lleoli yn gyfan gwbl neu yn rhannol yng Nghymru.

Fe hoffem gael eich sylwadau ar ddatblygiad proffesiynol mewn perthynas ag ymarferiad y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r disgwyliad y gellir gweithredu Trefniadau Diogelu Rhyddid (LPS) 

Y bwriad yw i Trefniadau Diogelu Rhyddid (LPS) cymryd lle cynllun Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) yn Hydref 2020.

Wrth baratoi drafft o’r cynllun fe ddylanwadwyd arno gan brofiad y gweithwyr proffesiynol a  fu’n gweithredu fel Aseswyr Buddiannau Gorau o dan gynllun DoLS. Mae’n bur debyg bydd staff presennol Aseswyr Buddiannau Gorau yn chwarae rhan amlwg yng nghyfluniad y cynllun Trefniadau Diogelu Rhyddid (LPS) newydd.

Bydd eich atebion yn helpu i lunio ymateb i Lywodraeth Cymru am weithredu Trefniadau Diogelu Rhyddid  trwy’r Ddeddf Galluedd Meddyliol Diwygied 2019.

Fe arweinir y gwaith gan Grŵp Polisi, Ymarferiad ag Addysg (GPYA) BASW Cymru, ar Gyfraith Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru ac maent yn gysylltiedig efo lobio Llywodraeth Cymru.

Bydd yr holl wybodaeth a roddir mewn ymateb i’r arolwg yn cael ei drin yn gyfrinachol

Fe gymerir tua 15 munud i gwblhau’r arolwg.

Anfonwch y cyswllt ar gyfer yr arolwg at eich cydweithwyr os gwelwch yn dda 

Anfonwch eich atebion erbyn Dydd Gwener 27 Mawrth os gwelwch yn dda.

T