Swydd: Trefnydd Etholaeth Arfon

Mae Plaid Cymru Etholaeth Arfon, Hywel Williams Aelod Seneddol a Siân Gwenllian Aelod Cynulliad am benodi:

Trefnydd / Swyddog Cyswllt Cymunedol (llawn amser)

Cyflog: rhwng £21,000 a £23,000

Swydd ddisgrifiad a manylion sut i wneud cais isod.

Teitl y swydd: Trefnydd Etholaeth Arfon a Swyddog Cyswllt Cymunedol

Prif leoliad: Caernarfon a Bangor

Atebol i: Cadeirydd Pwyllgor Etholaeth Arfon, Sian Gwenllian AC a Hywel Williams AS.

Cyflog: £21,000 - £23,000 y flwyddyn (llawn amser)

 

Caiff y swydd ei rhannu rhwng gwaith Trefnydd Etholaeth (3 diwrnod) a gwaith Swyddog Cyswllt Cymunedol i Siân Gwenllïan AC a Hywel Williams AS (2 ddiwrnod)  

 

Swyddog Cyswllt Cymunedol (2 ddiwrnod)

Mae cyfrifoldebau penodol yn cynnwys:

  • Sicrhau bod yr Aelod Cynulliad a’r Aelod Seneddol yn cael gwahoddiadau rheolaidd i gyfarfod a sgwrsio ag aelodau o grwpiau/cymdeithasau
  • Cynorthwyo gyda'r gwaith o baratoi a threfnu ymgyrchoedd penodol
  • Ymchwilio i faterion a godwyd mewn gohebiaeth etholaethol a dilyn achosion o’r fath, gan sicrhau eu bod yn cael eu datrys mewn pryd
  • Mynd i gyfarfodydd a/neu ddigwyddiadau gyda’r Aelod Cynulliad a’r Aelod Seneddol
  • Dyletswyddau gweinyddol cyffredinol yn ôl y gofyn

 

Trefnydd Etholaeth Arfon (3 diwrnod)

Mae Plaid Cymru Arfon yn awyddus i recriwtio unigolyn brwdfrydig a threfnus iawn i gydlynu gwaith ymgyrchu’r blaid yn yr etholaeth. Bydd yr ymgeisydd yn gallu arwain, ysgogi a threfnu ystod eang o wirfoddolwyr lleol ac ymgyrchwyr; cysylltu â grwpiau lleol a sefydliadau; ac mi fydd yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn gryno ar lafar ac yn ysgrifenedig.  Yn ogystal mae angen dealltwriaeth o Blaid Cymru a’i pholisïau ynghyd a gwybodaeth o dechnegau ymgyrchu cyfoes.  

Mae cyfrifoldebau penodol yn cynnwys:

  • Arwain a chydlynu ymgyrchoedd etholiadol yn Arfon ar lefel Cynulliad, Seneddol, Ewrop, Cyngor Sir a Cymuned/Tref.
  • Hyrwyddo achos Plaid Cymru yn yr etholaeth, gan fynychu cyfarfodydd misol y Pwyllgor Etholaeth a darparu adroddiadau fel sy'n briodol.
  • Cynorthwyo i ddatblygu canghennau, sefydlu canghennau newydd, atgyfodi rhai eraill ac ail strwythuro canghennau pe bai angen.
  • Sicrhau bod canghennau yn casglu taliadau aelodaeth bob blwyddyn a bod y rhestrau yn gyfredol.
  • Trefnu gweithgarwch ymgyrchu ac adnabod etholwyr (dros y ffôn a drws i ddrws) a bod yn gyfrifol am gofnodi’r canlyniadau ar fas data cyfrifiadurol.
  • Rhedeg ymgyrchoedd lleol ac ar draws yr etholaeth
  • Bod yn gyfrifol am sicrhau cofrestru pleidleiswyr a phleidleisiau drwy'r post
  • Gweithredu cynllun cyfathrebu digidol ar gyfer etholaethau ac ymgyrchoedd drwy’r cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook, trydar a gwefan
  • Cynorthwyo canghennau i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau codi arian lleol
  • Sicrhau cyfathrebu effeithiol gydag aelodau a chefnogwyr
  • Ysgrifennydd Pwyllgor Etholaeth - cadw cofnodion, delio a gohebiaeth a threfnu’r cyfarfodydd.
  • Bod yn gyfrifol am y ddwy swyddfa etholaeth, gan gynnwys trefnu unrhyw waith cynnal a chadw sydd ei angen.
  • Cyfrifol am rai agweddau o weinyddiaeth ariannol yr etholaeth drwy gynorthwyo’r Trysorydd yn ôl yr angen.

 

Sgiliau sydd eu hangen:

  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun, o fewn tîm ac yn rhagweithiol
  • Profiad mewn defnyddio TG, yn enwedig rhaglenni Microsoft Office yn ogystal â'r gallu i ddysgu defnyddio technoleg newydd a chyfryngau cymdeithasol Sgiliau cyfathrebu da yn llafar ac yn ysgrifenedig.
  • Sgiliau trefnu cryf
  • Dealltwriaeth dda o beth mae'n ei olygu i weithio fel rhan o dîm mewn amgylchedd gwleidyddol
  • Y gallu i weithio gyda gwirfoddolwyr a sefydliadau allanol
  • Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn gywir yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol
  • Trwydded yrru a mynediad i gerbyd
  • Parodrwydd i ddysgu sut i redeg ymgyrchoedd etholiadol yn effeithiol

 

Profiad sydd ei angen:

  • Profiad perthnasol o weithio o dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Profiad o fod yn effeithiol wrth reoli amser

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio tu allan i oriau swyddfa arferol gan gynnwys gyda’r nosau a phenwythnosau, yn enwedig ar gyfnodau o ymgyrchu dwys megis cyfnod etholiad.

 

 

Ceisiadau drwy ffurflen gais ar gael gan [email protected], 01286 672076

 

Dyddiad cau: Dydd Iau, 22 Awst am hanner dydd. Cyfweliadau dydd Mawrth, 27 Awst 2019.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg yn hanfodol

 

Ymholiadau a manylion pellach:

Richard Thomas; [email protected]

01286 672076

 

(This is an advertisement for a Full Time Organiser / Community Liaison Officer to work for Plaid Cymru Arfon Constituency, Hywel Williams MP and Siân Gwenllian AM. Complete fluency in oral and written Welsh is essential).


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd