Search Legislation

Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 88 (Cy. 42)

Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016

Gwnaed

27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Ionawr 2016

Yn dod i rym

1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 26(1)(a) a (2) o Ddeddf Gofal Plant 2006(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiad” (“assessment”) yw’r asesiad a gynhelir gan awdurdod lleol yn unol â’r Rheoliadau hyn;

mae i “cyfnod sylfaen” (“foundation phase”) yr ystyr a roddir yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014(3);

ystyr “darparwr gofal plant” (“childcare provider”) yw unrhyw berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Mesur i ddarparu gofal plant;

ystyr “darparwyr gofal plant yn y cartref” (“home childcare providers”) yw personau a gymeradwyir o dan gynllun a wneir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002(4);

mae i “diwrnod ysgol” yr ystyr a roddir i (“school day”) yn adran 579 o Ddeddf Addysg 1996;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gofal Plant 2006;

ystyr “fforwm addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education forum”) yw corff a sefydlir gan awdurdod lleol at ddiben gwella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg yn ei ardal, y mae ei aelodaeth yn cynnwys yr awdurdod lleol a’r personau eraill hynny y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol(5);

mae i “gofal dydd” (“day care”) yr ystyr a roddir yn Rhan 2 o’r Mesur;

mae i “gofal plant” yr ystyr a roddir i (“childcare”) yn adran 30 o’r Ddeddf;

ystyr “grŵp monitro chwarae” (“play monitoring group”) yw grŵp a sefydlir gan awdurdod lleol at ddiben sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn ei ardal, y mae ei aelodaeth yn cynnwys yr awdurdod lleol a’r personau eraill hynny y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol;

mae i “gwarchod plant” (“child minding”) yr ystyr a roddir yn Rhan 2 o’r Mesur;

ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw mangre y mae person yn gweithredu fel darparwr gofal plant ynddi;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(6);

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i (“compulsory school age”) yn adran 8 o Ddeddf Addysg 1996(7).

(2Yn y Rheoliadau hyn, y mathau o ofal plant yw–

(a)gwarchod plant;

(b)pob un o’r mathau o ofal dydd a nodir mewn safonau a wneir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ac y mae rhaid rhoi sylw iddynt yn unol ag adran 30(3) o’r Mesur; ac

(c)darparwyr gofal plant yn y cartref (nanis).

Y ddyletswydd i lunio a chyhoeddi asesiadau

3.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chyhoeddi asesiadau o ddigonolrwydd y gofal plant a ddarperir yn ei ardal.

(2Rhaid cyhoeddi’r asesiad cyntaf erbyn 31 Mawrth 2017.

(3Rhaid llunio a chyhoeddi asesiadau dilynol bob pum mlynedd.

(4Wrth lunio asesiad rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(5Rhaid ir awdurdod lleol anfon copi o’r asesiad a lunnir o dan baragraffau (2) a (3) i Weinidogion Cymru.

Cynllun Gweithredu

4.—(1Rhaid i bob asesiad a lunnir gan yr awdurdod lleol gynnwys cynllun gweithredu.

(2Pan fo asesiad yn nodi—

(a)bod y ddarpariaeth gofal plant yn annigonol yn yr ardal awdurdod lleol, rhaid i’r cynllun gweithredu nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i wella’r cyfleoedd i blant gael mynediad i ddarpariaeth gofal plant o fewn yr ardal awdurdod lleol honno, neu

(b)bod y cyfleoedd i blant gael mynediad i ofal plant yn ddigonal, yn yr ardal awdurdod lleol, rhaid i’r cynllun gweithredu nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i gynnal y cyfleoedd i gael mynediad i ofal plant o fewn yr ardal awdurdod lleol honno.

Y materion sydd i gael eu cynnwys yn yr asesiad

5.  Mae’r Atodlen (sy’n rhagnodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys yn yr asesiad) yn cael effaith.

Ymgynghori

6.  Wrth lunio’r asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r rhai o blith y canlynol yn ei ardal, y mae’n ystyried eu bod yn briodol—

(a)plant;

(b)rhieni neu ofalwyr;

(c)darparwyr gofal plant;

(d)personau sy’n cynrychioli—

(i)plant;

(ii)rhieni neu ofalwyr;

(iii)darparwyr gofal plant;

(e)personau a chanddynt fuddiant mewn gofal plant;

(f)personau sy’n cynrychioli’r rheini a chanddynt fuddiant mewn gofal plant;

(g)personau sy’n cynrychioli cyflogwyr a chyrff cyflogwyr lleol;

(h)cyflogwyr lleol;

(i)awdurdodau lleol cyfagos;

(j)ysgolion;

(k)colegau addysg bellach.

7.  Wrth lunio’r asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)ymgynghori â’r canlynol—

(i)y Bwrdd Diogelu Plant y mae’n bartner Bwrdd Diogelu iddo(8);

(ii)os yw wedi ei sefydlu yn ardal yr awdurdod lleol, y fforwm addysg cyfrwng Cymraeg;

(iii)os yw wedi ei sefydlu yn ardal yr awdurdod lleol, y grŵp monitro chwarae; a

(b)hysbysu unrhyw swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith yn ardal yr awdurdod lleol a’u gwahodd i gyflwyno unrhyw sylwadau.

Asesiad Drafft

8.  Cyn cyhoeddi’r asesiad a lunnir o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi drafft o’r asesiad ar wefan yr awdurdod lleol am gyfnod o 28 o ddiwrnodau er mwyn rhoi’r cyfle i’r personau y mae wedi ymgynghori â hwy gyflwyno sylwadau ar y drafft.

9.  Rhaid i’r awdurdod lleol ddiwygio’r asesiad drafft yn y ffordd sy’n briodol yn ei farn ef wrth ymateb i unrhyw sylwadau a geir.

Dull cyhoeddi’r asesiad

10.  Rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi’r asesiad ar wefan yr awdurdod lleol.

11.  Caiff yr awdurdod lleol ddarparu copïau o’r asesiad i’r cyhoedd ar gais.

Adroddiadau cynnydd blynyddol

12.  Yn sgil cyhoeddi’r asesiad cyntaf, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad blynyddol ar gynnydd—

(a)yr asesiad cyntaf;

(b)yr asesiadau dilynol sy’n ofynnol o dan reoliad 3(3).

Dirymu

13.  Mae Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2013(9) wedi eu dirymu.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

Rheoliad 5

YR ATODLENY materion sydd i gael eu cynnwys yn yr asesiad

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “elfen costau gofal plant o gredyd cynhwysol” (“childcare costs element of universal credit”) yw swm a gynhwysir mewn dyfarniad o gredyd cynhwysol o dan adran 12 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(10) ac a ragnodir yn Rheoliadau Credyd Cynhwysol 2013(11);

ystyr “elfen costau gofal plant o gredyd treth gwaith” (“childcare costs element of working tax credit”) yw swm a gynhwysir mewn dyfarniad o gredyd treth gwaith o dan adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002 ac a ragnodir yn Rheoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i’w Gael a’r Gyfradd Uchaf) 2002(12);

ystyr “gofal plant â chymorth cyflogwr” (“employer supported childcare”) yw cynllun cymorth a ddarperir gan gyflogwr sy’n gymwys i gael ymwared rhag treth o dan adrannau 35 ac 36 o Ddeddf Cyllid 2011(13) ac Atodlen 8 iddi;

ystyr “gofal plant di-dreth” (“tax free childcare”) yw’r cynllun o dan adran 1 o Ddeddf Taliadau Gofal Plant 2014(14);

ystyr “hyd sesiwn” (“session length”) yw’r cyfnod hwyaf o amser y bydd darparwr gofal plant yn gofalu am blentyn mewn diwrnod;

ystyr “rhestr aros y darparwr gofal plant” (“childcare providers waiting list”) yw’r rhestr o’r ceiswyr sy’n aros am gynnig lle gofal plant oddi wrth y darparwr gofal plant mewn cysylltiad â phlentyn.

2.  Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i asesiad yr awdurdod lleol gynnwys mewn cysylltiad â phob math o ofal plant a bennir yn rheoliad 2(2), fanylion ynghylch—

(a)cyfanswm nifer—

(i)y lleoedd gofal plant sydd wedi eu llenwi;

(ii)y lleoedd gofal plant sy’n ofynnol;

(b)nifer y lleoedd gofal plant llawnamser a rhan-amser-

(i)sydd wedi eu llenwi;

(ii)sy’n ofynnol;

(c)nifer—

(i)y lleoedd sydd wedi eu llenwi a’r nifer sy’n ofynnol, y caniateir i’r elfen costau gofal plant o gredyd treth gwaith neu’r elfen costau gofal plant o gredyd cynhwysol gael ei defnyddio ar eu cyfer;

(ii)y lleoedd sydd wedi eu llenwi a’r nifer sy’n ofynnol, y gallai rhieni ddefnyddio gofal plant â chymorth cyflogwr neu ofal plant di-dreth ar eu cyfer;

(iii)y lleoedd sydd wedi eu llenwi a’r nifer sy’n ofynnol gan blant ag anghenion addysgol arbennig neu y mae angen gofal arbenigol arnynt oherwydd anabledd;

(iv)y lleoedd gofal plant am ddim sydd wedi eu llenwi a’r nifer sy’n ofynnol gan blant 2 flwydd oed;

(v)y lleoedd cyfnod sylfaen am ddim sydd wedi eu llenwi, y nifer sy’n ofynnol a’r nifer sydd ar gael i blant 3 a 4 blwydd oed;

(vi)y lleoedd sydd wedi eu llenwi a’r nifer sy’n ofynnol ar gyfer gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg;

(vii)y lleoedd gwag; a

(viii)y plant sydd ar restrau aros y darparwyr gofal plant;

(d)yr adegau—

(i)pan fo’r gofal plant yn ofynnol;

(ii)pan fo’r gofal plant ar gael;

(e)ystod y gwasanaethau a gynigir gan y darparwr gofal plant;

(f)ystod yr hydoedd sesiwn a gynigir gan y darparwr gofal plant;

(g)y math o ddarparwr gofal plant sy’n cynnig oriau hyblyg ar gyfer gofal plant;

(h)nifer y darparwyr gofal plant sy’n cynnig oriau hyblyg ar gyfer gofal plant;

(i)ystod oedran y plant yn y mathau o ofal plant a bennir yn rheoliad 2(2); a

(j)ystod y taliadau ar gyfer y gofal plant.

3.  Nid yw’r manylion ym mharagraffau 2(iv) a (v) yn ofynnol mewn perthynas â darparwyr gofal plant yn y cartref.

Dosbarthiad daearyddol

4.  Rhaid i’r asesiad gynnwys manylion ynghylch—

(a)dosbarthiad daearyddol pob math o ofal plant yn ardal yr awdurdod lleol; a

(b)unrhyw fylchau yn y dosbarthiad daearyddol hwnnw.

5.  Caiff yr asesiad ystyried y gofal plant sydd ar gael y tu allan i ardal yr awdurdod lleol ond sydd ar gael i bobl sy’n byw yn yr ardal.

Cynaliadwyedd

6.  Rhaid i’r asesiad gynnwys manylion unrhyw ffactorau sydd wedi effeithio ar gynaliadwyedd darparwyr gofal plant presennol yn ardal yr awdurdod lleol.

Ffigurau a thueddiadau rhagamcanol ar gyfer y boblogaeth

7.  Rhaid i’r asesiad gynnwys manylion ynghylch—

(a)ffigurau poblogaeth rhagamcanol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol; a

(b)y prif dueddiadau a ffactorau sy’n debygol o effeithio ar y ffigurau hynny.

Dadansoddiad o’r bylchau

8.  Rhaid i’r asesiad gynnwys dadansoddiad o’r cyflenwad a’r galw ac unrhyw fwlch yn y cyflenwad a’r galw am ddarpariaeth gofal plant yn ardal yr awdurdod lleol, gan gynnwys yn benodol—

(a)darpariaeth gofal plant ar gyfer plant y mae eu rhieni yn gweithio oriau annodweddiadol;

(b)darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg; ac

(c)darpariaeth gofal plant ar gyfer categorïau iaith gwahanol.

Crynodeb anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu

9.  Rhaid i’r asesiad gynnwys crynodeb o’r anghenion gofal plant nad ydynt yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod lleol gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â’r canlynol—

(a)y mathau o ofal plant sydd ar gael;

(b)oedran y plant y mae gofal plant ar gael iddynt;

(c)fforddiadwyedd gofal plant;

(d)adegau pan fo gofal plant ar gael; ac

(e)lleoliad y gofal plant.

Rhwystrau i ddarpariaeth gofal plant

10.  Rhaid i’r asesiad gynnwys manylion ynghylch—

(a)hygyrchedd darpariaeth gofal plant;

(b)y rhwystrau a brofir gan—

(i)rhieni sy’n gweithio;

(ii)rhieni sy’n ceisio gwaith neu gyfleoedd hyfforddi;

(iii)aelwydydd di-waith;

(iv)teuluoedd ar incwm isel;

(v)teuluoedd rhiant unigol;

(vi)teuluoedd o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig;

(vii)teuluoedd a chanddynt blant ag anghenion addysgol arbennig, neu anabledd.

Datblygu a hyfforddi

11.  Rhaid i’r asesiad gynnwys manylion ynghylch—

(a)cymwysterau gofal plant sydd gan y gweithlu eisoes;

(b)anghenion hyfforddi’r gweithlu.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli, gyda newidiadau, Reoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2013.

Mae rheoliad 3 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal asesiadau o ddigonolrwydd gofal plant.

Mae rheoliad 4 yn gwneud yn ofynnol i gynllun gweithredu gael ei baratoi fel rhan o asesiad yr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 5 yn cyflwyno’r Atodlen sy’n rhagnodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys yn yr asesiad.

Mae rheoliadau 6 a 7 yn rhagnodi’r personau y gallai awdurdodau lleol ystyried ymgynghori â hwy a’r personau y mae rhaid iddynt ymgynghori â hwy wrth lunio’r asesiad.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi’r cyfle i’r personau y maent wedi ymgynghori â hwy gyflwyno sylwadau ar yr asesiad drafft cyn iddo gael ei gyhoeddi.

Mae rheoliadau 10 a 11 yn ymdrin â’r gofyniad i gyhoeddi’r asesiad drafft.

Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno adroddiadau cynnydd blynyddol i Weinidogion Cymru.

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 26 o Ddeddf Gofal Plant 2006 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(5)

Gweler Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 – O.S. 2013/3048 (Cy. 307).

(10)

2012 p. 5.

(11)

O.S. 2013/376 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2015/1754.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources