Canllawiau

Adnabod galwadau ffôn, e-byst a negeseuon testun sy’n sgamio

Defnyddio rhestr wirio er mwyn penderfynu a yw galwad ffôn, neges destun (SMS) neu e-bost amheus yn sgam yn hytrach na gohebiaeth ddilys.

Gwirio’r hyn y dylech chwilio amdano gyntaf

Defnyddiwch y rhestr wirio ganlynol er mwyn penderfynu a yw’r ohebiaeth yr ydych wedi’i chael yn sgam. Gallwch ddefnyddio’r rhestr ar gyfer galwadau ffôn, e-byst a negeseuon testun.

Gall yr ohebiaeth fod yn sgam os yw’n:

  • eich rhuthro
  • fygythiol
  • annisgwyl
  • gofyn am wybodaeth bersonol megis manylion banc
  • gofyn i chi drosglwyddo arian
  • cynnig ad-daliad, ad-daliad treth neu grant

Am ragor o help, gweler enghreifftiau o e-byst gwe-rwydo a gohebiaeth ffug sy’n honni cysylltiad â CThEF.

Gwiriwch ein rhestr o ohebiaeth ddilys ac ymgyrchoedd dilys CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw’r hyn yr ydych wedi’i gael yn ddilys.

Pethau eraill i fod yn wyliadwrus ohonynt

Galwadau ffôn amheus

Ni fydd CThEF byth:

  • yn gadael lleisbost sy’n bygwth camau cyfreithiol
  • yn bygwth eich arestio

Gweler enghreifftiau o alwadau ffôn ffug.

Negeseuon testun

Mae CThEF yn anfon negeseuon testun at rai o’n cwsmeriaid.

Yn y neges destun, efallai y byddwn yn cynnwys cysylltiad i wybodaeth ar GOV.UK neu i sgwrs CThEF dros y we.

Ni fydd CThEF byth yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol wrth anfon negeseuon testun atoch.

Rydym yn eich cynghori i beidio ag agor unrhyw gysylltiadau, nac ymateb i unrhyw negeseuon testun, sy’n honni eu bod oddi wrth CThEF, ac sy’n cynnig ad-daliad treth yn gyfnewid am fanylion personol neu ariannol.

Er mwyn helpu gyda’r frwydr yn erbyn sgamiau gwe-rwydo, anfonwch unrhyw negeseuon testun amheus i 60599 (costau rhwydwaith yn berthnasol) neu drwy e-bost: phishing@hmrc.gov.uk neu gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk ac yna dilëwch y negeseuon testun hynny.

Negeseuon WhatsApp

Os ydych chi wedi tanysgrifio i sianel Llywodraeth y DU ar WhatsApp (yn Saesneg), byddwch yn cael diweddariadau a allai gynnwys negeseuon atgoffa achlysurol sy’n gysylltiedig â threth. Bydd y rhain yn hysbysiadau neges sengl ac ni fyddwch yn gallu ymateb.

Ni fydd CThEF yn cysylltu â chi am unrhyw reswm arall gan ddefnyddio WhatsApp.

Codau QR

Mae CThEF yn defnyddio codau QR mewn dwy ffordd wahanol:

  • yn ein llythyrau a gohebiaeth rydyn ni ar adegau’n defnyddio codau QR ond dim ond i fynd â chi at arweiniad ar GOV.UK — ni fyddwn yn mynd â chi i dudalen lle mae’n rhaid i chi fewnbynnu gwybodaeth bersonol
  • pan fyddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif CThEF efallai y byddwn yn defnyddio codau QR i’ch ailgyfeirio, er enghraifft i dudalen mewngofnodi eich banc

Os ydym yn defnyddio codau QR mewn cyfathrebiadau, gallwch eu gweld ar dudalen cysylltiadau dilys CThEF.

Er mwyn helpu gyda’r frwydr yn erbyn sgamiau gwe-rwydo, anfonwch unrhyw e-byst amheus sy’n cynnwys codau QR i phishing@hmrc.gov.uk ac yna dilëwch nhw.

Talebau anrhegion neu dalebau talu

Ni fydd CThEF yn gofyn i chi dalu drwy ddefnyddio talebau anrhegion na thalebau talu ar unrhyw adeg.

Os ydych eisoes wedi rhannu manylion personol

Gallwch roi gwybod i Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF fod gwybodaeth bersonol wedi’i datgelu.

Os ydych wedi dioddef sgam a cholli arian, rhowch wybod am hyn i Action Fraud neu rhowch wybod i Heddlu’r Alban drwy alw 101 os ydych yn byw yn yr Alban.

Cyhoeddwyd ar 29 October 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 January 2024 + show all updates
  1. Information about the new UK Government WhatsApp Channel, and how HMRC will use the Channel, has been added.

  2. Information about how HMRC use QR codes has been updated.

  3. Information about when HMRC might send you a text message has been updated.

  4. We have added a reporting phone number for Police Scotland.

  5. Added translation

  6. Added translation

  7. Information about how HMRC use QR codes has been updated.

  8. Information about when HMRC might send you a text message if you call one of our helplines from a mobile phone, and what it might include has been added.

  9. Updated information on what to look for first and suspicious phone calls.

  10. Added information on QR codes.

  11. First published.