Innovative and creative research methods for migration research

Dulliau ymchwil arloesol a chreadigol ar gyfer ymchwil mudo / Innovative and creative research methods for migration research

By WISERD

Date and time

Wed, 1 Jun 2022 10:00 - 13:00 GMT+1

Location

To be announced

About this event

Gweithdy ar-lein

Mae'r gweithdy hwn yn tynnu sylw at rai dulliau creadigol arloesol sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan ymchwilwyr ymfudo yng Nghymru. Mae'r gweithdy'n gyfle i glywed gan dri academydd sy’n defnyddio dulliau creadigol amrywiol i ymchwilio i wahanol agweddau ar fudo, ac i drafod y cyfleoedd a'r heriau o fabwysiadu'r dulliau hyn. Nod y gweithdy yw rhannu arfer da a myfyrio ar brofiad yr ymchwilwyr o ddefnyddio dulliau creadigol.

Siaradwyr

Dr Eleanor Cotterill (Prifysgol Caerdydd)

Dr Barrie Llewelyn (Prifysgol De Cymru)

Laura Shobiye (Prifysgol Caerdydd)

Mae’r gweithdy’n briodol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dulliau creadigol mewn ymchwil mudo, ac mae wedi’i dargedu’n benodol at ymchwilwyr gyrfa cynnar, ymchwilwyr newydd, neu i’r rhai a hoffai ddysgu mwy am ddefnyddio dulliau creadigol yn eu hymchwil.

Online workshop

This workshop highlights some innovative creative methods currently being undertaken by Wales-based migration researchers. The workshop provides an opportunity to hear from three academics using various creative methods to research different aspects in migration, and to discuss the opportunities and challenges of adopting these methods. The workshop aims to share good practice and reflection on researchers’ own experience of using creative methods.

Speakers

Dr Eleanor Cotterill (Cardiff University)

Dr Barrie Llewelyn (University of South Wales)

Laura Shobiye (Cardiff University)

The workshop is appropriate for anybody interested in creative methods in migration research, and is targeted in particular towards early career researchers, new researchers, or to those who would simply like to learn more about using creative methods in their research.

Organised by

The Wales Institute of Social and Economic Research and Data (WISERD) is a national, interdisciplinary, social science research institute. We have been designated by the Welsh Government as a national research centre. Using innovative approaches, our research spans the fields of economics, sociology, geography and political science.

We are a collaborative venture between the universities of Aberystwyth, Bangor, Cardiff, South Wales and Swansea – working together to improve the quality and quantity of social science research in Wales and beyond. Our research effects change by influencing the development of policy and practice across a range of sectors.

-------

Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) yn sefydliad ymchwil gwyddorau cymdeithasol rhyngddisgyblaethol cenedlaethol. Rydym wedi ein dynodi gan Lywodraeth Cymru’n ganolfan ymchwil genedlaethol. Gan ddefnyddio dulliau arloesol, mae ein hymchwil yn cwmpasu economeg, cymdeithaseg, daearyddiaeth a gwyddoniaeth wleidyddol. 

Rydym yn gydfenter rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe - yn cydweithio i wella safon a maint ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein hymchwil yn effeithio ar newid drwy ddylanwadu ar ddatblygiad polisi ac arfer ar draws ystod o sectorau.

Sales Ended