Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynychu ysgolion, yn llawn amser, a reolir gan Awdurdod Addysg Ceredigion.*

Mae hyn yn cynnwys:

  • Plant iau sy’n mynychu diwrnodau llawn (oed 4+)
  • Disgyblion y chweched dosbarth

Mae'n bosibl y gall ddisgybl gael prydau bwyd am ddim os yw ei riant neu warcheidwad (hynny yw, y person sydd a gofal am y plentyn) yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm
  • Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen gwarant Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith hefyd ac nad yw eich incwm gros blynyddol yn fwy nag £16,190)
  • Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – a delir am bedair wythnos pan nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach
  • o 1 Ebrill 2019, Credyd Cynhwysol – ar yr amod nad yw incwm net blynyddol1 eich cartref yn fwy na £7,400 (fel yr aseswyd yn ôl enillion o hyd at dri o’ch cyfnodau asesu mwyaf diweddar)

1 Diffinnir incwm net fel incwm y cartref ar ôl trethi a didyniadau. Nid yw'n cynnwys incwm o Gredyd Cynhwysol na budd-daliadau eraill.

Os yw eich plant yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm, Cymorth Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm eu hunain, mae'n bosibl y gallent gael prydau ysgol am ddim hefyd.

* Mae pob disgybl llawn-amser sy'n mynychu’r sector cynradd yng Ngheredigion wedi cael hawl awtomatig i Brydau Ysgol am ddim (UPFSM) ers mis Medi 2023.

Noder os yw’ch plentyn/plant yn mynychu’r blynyddoedd penodedig yma, ac yr ydych am dderbyn taliad y Grant Hanfodion Ysgol, fe fydd dal angen i chi gwblhau ffurflen gais am Brydau Ysgol am Ddim. Fe ddylech hefyd adael i’r ysgol wybod yn uniongyrchol os yw eich plentyn, neu blant, am dderbyn pryd am ddim bob dydd, neu os ydynt am ddod â chinio eu hunain.

Ceisiadau

Yn y lle cyntaf, cwblhewch y ffurflen gais.

Dechrau Nawr

Ffyrdd eraill o wneud cais

Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol ar 01545 570 881 er mwyn cwblhau cais dros y ffôn neu ymweld ag un o’n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Gwneir gwiriadau cychwynnol a pharhaus i gadarnhau eich cymhwysedd gan ddefnyddio'ch Rhif Yswiriant Cenedlaethol a'ch Dyddiad Geni, dylid cwblhau’r rhain yn awtomatig unwaith y bydd eich cais wedi’i brosesu a’i gymeradwyo.
Lle bo gwiriadau'n amhosibl neu'n amhendant, gofynnwn ichi ddarparu prawf dogfennol.

Newidiadau yn eich Amgylchiadau

Os bydd eich amgylchiadau'n newid, yna bydd angen ichi hysbysu'r Awdurdod Lleol ar unwaith. Os bydd hawlwyr yn methu â hysbysu'r Awdurdod o'r newidiadau sy'n effeithio ar deilyngdod eu plant i brydau ysgol am ddim, ceidw'r Awdurdod yr hawl i gymryd camau priodol. Noder, na fydd pob newid yn arwain at unrhyw newidiadau i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim oherwydd Amddiffyniad wrth bontio.

Beth yw ‘Amddiffyniad wrth bontio’?

Ar 1 Ebrill 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reolau newydd ar gyfer hawlio prydau ysgol am ddim. Oherwydd hyn, gallai nifer gymharol fach o blant a phobl ifanc fod wedi colli eu cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Cyflwynwyd “amddiffyniad wrth bontio” (Transitional Protection / TP) er mwyn sicrhau bod y plant a'r bobl ifanc hyn yn parhau i gael prydau ysgol am ddim am gyfnod cyfyngedig o amser.

Gellir crynhoi amddiffyniad wrth bontio fel a ganlyn:

  • Bydd unrhyw blentyn neu berson ifanc a ddaeth yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Rhagfyr 2023, yn parhau i fod yn gymwys tan ddiwedd ei gyfnod presennol yn yr ysgol (h.y. boed yn addysg gynradd neu'n addysg uwchradd)
  • Ni chaiff TP ei ymestyn i hawlwyr nad ydynt yn cael Credyd Cynhwysol na hen fudd-daliadau ac na fydd y newid yn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim yn effeithio arnynt

O 1 Ionawr 2024, ni fydd unrhyw ddisgyblion newydd yn gymwys i TP, er gallai rhai aelodau o’r un teulu fod yn barod.

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru, ewch i'w tudalen Bwyd a diodydd mewn ysgolion.