Mae cynnydd sylweddol o achosion COVID-19 yn cael ei weld ledled Ceredigion.

Mae'r cyfraddau presennol yn dangos bod Ceredigion yn 656.2 fesul 100,000 o'r boblogaeth gyda 464 o achosion positif wedi'u hadrodd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf. Dyma'r lefel uchaf a gofnodwyd yng Ngheredigion ers dechrau'r pandemig.

Ar hyn o bryd rydym yn gweld niferoedd uchel yn Ne Aberystwyth, 851.6 fesul 100,000 o'r boblogaeth a Borth a Bontgoch sydd ar 1155.9 fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Gyda nifer pryderus iawn o achosion ar draws y sir, mae'r Cyngor yn annog trigolion i gadw at y canllawiau sylfaenol er mwyn amddiffyn ein ffrindiau, ein teuluoedd a'n cymunedau. Drwy gymryd cyfrifoldeb personol gallwn amddiffyn ein gilydd.

Gyda’r gaeaf ar droed a’r tymheredd yn gostwng, bydd yn fwy tebygol y bydd pobl yn dymuno cwrdd dan do gyda theulu a ffrindiau. Cofiwch po fwyaf o bobl y byddwch yn cwrdd mewn cyswllt agos â nhw, y mwyaf o siawns sydd o ddal a lledaenu’r feirws.

Ni allwn laesu ein dwylo. Nid dyma'r amser i fod yn hunanfodlon.

 Y brechlyn yw'r amddiffyniad gorau yn erbyn y feirws. Rhaid i chi gadw at y canllawiau sylfaenol hyd yn oed os ydych wedi derbyn y ddau ddôs a pigiad atgyfnerthu’r brechlyn Coronafeirws. Rhaid inni gofio nad yw'r brechlyn yn darparu amddiffyniad llwyr. Fodd bynnag, mae wedi lleihau nifer cyffredinol y derbyniadau i'r ysbyty. Mae gwybodaeth am frechlynnau ar gael yma: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/imiwneiddio-a-brechu/

Byddwch yn ymwybodol o symptomau COVID-19. Mae symptomau COVID-19 yn cynnwys tymheredd uchel, peswch cyson newydd a phrofi colled neu newid o ran blas neu arogl. Ond hefyd, mae’r symptomau cynnar yn gallu cynnwys cur pen, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.

Nid yw'r Coronafeirws wedi diflannu. Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud y peth iawn drwy;

  • gael ein brechu
  • gael prawf os oes gennym symptomau
  • golchi ein dwylo’n rheolaidd
  • cadw pellter cymdeithasol
  • cyfyngu ar ein cyswllt cymdeithasol
  • cwrdd yn yr awyr agored lle bynnag y bo hynny’n bosibl
  • gwisgo masg mewn mannau prysur dan do
  • os ydych chi’n cwrdd dan do, sicrhau bod digon o awyr iach yn dod i mewn.

Gyda'n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

28/10/2021