Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Prydau ysgol am ddim

 ​​Caiff disgyblion cynradd ac uwchradd brydau ysgol am ddim os yw eu teulu’n cael:
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ag Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Elfen Gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Treth Plant ag incwm blynyddol sy’n llai na £16,190
  • Credyd Cynhwysol os mae enillion net y teulu yn llai na £7400
 
*Ni all teuluoedd sy’n cael Credyd Treth Gwaith fanteisio ar brydau ysgol am ddim.


Unwaith rydych wedi danfon cais i mewn, byddwch yn cael eich hysbysi yn ysgrifenedig o’r canlyniad. 

Os ydych chi’n gymwys am brydau ysgol am ddim, caiff ysgol eich plentyn ei hysbysu fel y gall ddiweddaru ei gofnodion. 

Caiff prydau ysgol am ddim eu dyfarnu i bob plentyn ar wahân ac nid i’r cartref. 

Nid oes angen i chi ailymgeisio os yw eich plentyn yn symud i ysgol arall yn y fwrdeistref. Pan gawn ein hysbysu gan ysgol newydd eich plentyn ei fod yn ddisgybl yno, byddwn yn diwygio ein cofnodion ac yn hysbysu’r ysgol o’ch cymhwysedd. 


Newidiadau o 1 Ebrill 2019

Bydd unrhyw ddisgybl sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar 1 Ebrill 2019 yn dal yn gymwys hyd at 31 Rhagfyr 2023, hyd yn oed os bydd eu hamgylchiadau'n newid. Gelwir hyn yn amddiffyn wrth bontio. 

Os yw disgybl yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan feini prawf newydd Credyd Cynhwysol o 1 Ebrill 2019, byddant hefyd yn dal yn gymwys hyd at 31 Rhagfyr 2023, hyd yn oed os bydd eu hamgylchiadau'n newid. 

Pan fydd Credyd Cynhwysol wedi'i gyflwyno, bydd y disgyblion hyn yn parhau i gael prydau ysgol am ddim nes iddynt adael eu cyfnod ysgol presennol. Er enghraifft, tan ddiwedd yr ysgol gynradd neu uwchradd. 

O 1 Ionawr 2024 ni fydd dyfarniadau newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim yn cael eu diogelu, a gallai unrhyw newidiadau i amgylchiadau effeithio ar gymhwysedd.

Os hoffech fwy o gwybodaeth mae llywodraeth Cymru wedi creu dogfen am Cwestiynau Cyffredin​​​​​​​​​.

I gael rhagor o wybodaeth am brydau ysgol am ddim neu laeth am ddim.   

Cysylltu â ni

Ffôn​: 029 2087 1071​


​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd