Gwersi dyddiol i ddisgyblion Cymru gyda Bitesize

  • Cyhoeddwyd
Gwersi

Gydag o leiaf dair wythnos arall o ddysgu adref ar y gorwel i rieni, mae BBC Cymru yn lansio arlwy addysg newydd ar gyfer plant ysgol 3-14 oed.

O heddiw, bydd gwersi i ddisgyblion yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar wasanaeth newydd Gwersi Dyddiol Bitesize. Bydd y set gyntaf o wersi yn canolbwyntio ar y tri phwnc craidd - Saesneg, Cymraeg a Mathemateg ar gyfer dysgwyr Cynradd ac Uwchradd.

Y bwriad hefyd yw creu deunydd i helpu rhieni di-gymraeg gydag addysg eu plant, yn cynnwys fideos, gweithgareddau, gemau a darnau wedi animeiddio.

Gwersi o bell

Wrth baratoi gwersi o bell i'w disgyblion ar gyfer tair wythnos arall, mae athrawon sy'n arbenigo mewn dysgu digidol yn croesawu'r adnoddau newydd: "Mae ysgolion ac athrawon yn gweithio'n ddiwyd ar hyn o bryd yn darparu cyfleoedd a chreu adnoddau dysgu o bell i'w disgyblion," medd Julie Fletcher, Cydlynydd Digidol Ysgol y Strade, Llanelli.

"Mae adnoddau amlgyfrwng, fel animeiddiadau a gemau mae'r BBC wedi addo cynnig yn gofyn am sgiliau arbenigol i greu. Bydd disgyblion yn ymateb yn bositif i gynnwys o'r math."

Ehangu'r gwasanaeth

Mae adran addysg BBC Cymru yn addo y bydd y gronfa o gynnwys addysgol fydd ar gael yn tyfu wrth i fwy a mwy o wersi gael eu hychwanegu'n ddyddiol, a bydd cynnwys sy'n benodol i Gymru hefyd ar gael ar BBC iPlayer.

"Bydd ein gwasanaeth addysg newydd yn cefnogi disgyblion a rhieni i barhau â'u dysgu yn ystod yr 14 wythnos nesaf," medd Nia M Davies, Pennaeth Cynyrchiadau Addysg BBC Cymru,

Bydd dysgwyr yng Nghymru hefyd yn gallu elwa o gynnwys Bitesize Dyddiol. Bydd y gwersi hyn yn cynnwys clipiau byrion gan athrawon yn egluro cysyniadau addysgol allweddol, darnau animeiddio, a chynnwys gan bartneriaid addysgol.

Ffynhonnell y llun, Llun teuluol
Disgrifiad o’r llun,

Yr her o ddysgu o gartref i filiynau o rieni i barhau am o leiaf 3 wythnos arall

"Yn ystod yr wythnos gyntaf, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar roi cymorth mewn Mathemateg, Saesneg a Chymraeg fel pynciau craidd," medd Nia M Davies.

"Wrth i'r gwasanaeth dyfu'n sylweddol o un wythnos i'r llall, byddwn yn cyflwyno gwersi newydd ar draws y cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg."

Ychwanegodd: "Bydd rhai o'n gwersi yn cynnig cymorth i rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg a'u plant i helpu gyda pharhad eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac i hwyluso'r broses o drawsnewid yn ôl i fywyd ysgol.

"Ry'n ni'n falch iawn o allu cefnogi plant a rhieni yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn."

14 wythnos

Fe fydd y gwasanaeth sydd yn dechrau ddydd Llun yn para am 14 o wythnosau, ac yn ôl Nia M Davies mae hi wedi bod "yn glamp o dasg ond yn her sydd wedi bod yn werth chweil."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore dydd Llun, ychwanegodd:

"Da ni yn cefnogi disgyblion o'r cyfnod sylfaen reit i fyny at flwyddyn 10.

"Bydd gwersi dyddiol ar ein gwefan Bitesize ni, gan ddechrau eu cyhoeddi nhw o 9.00 y bore ma, ac yn ogystal â'r pynciau craidd yr wythnos hon a'r wythnos nesaf ymlaen, fe fydd yna wersi ychwanegol - fe fydd hanes a daearyddiaeth yn cael eu hychwanegu a'r gwasanaeth yn cynyddu wrth i ni fynd o un wythnos i'r llall.

"Bydd cynnwys yn ymddangos ar y BBC iPlayer hefyd yn Gymraeg... ac un o'r pethe ni ishe cefnogi yw bod lot o rieni di-gymraeg yn stryglo ar hyn o bryd hefo cefnogi eu plant nhw sydd yn mynychu addysg Gymraeg - felly bydd ganddo ni lot o nodiadau i rieni dwyieithog o gwmpas ein cynnwys cynradd ni ar y wefan."

Yn ôl Julie Fletcher o Ysgol y Strade mae cefnogi rhieni di-gymraeg yn bwysig iawn i ysgolion cyfrwng Cymraeg:

"Rwy'n siwr bydd diffyg hyder naturiol gan y rieni yma at addysgu ei blentyn adref mewn iaith anghyfarwydd," meddai.

"Mae pob adnodd digidol Cymraeg newydd, sy'n ychwanegol i beth mae ysgolion yn barod yn cynnig, sydd ar-lein eisoes neu ar lwyfan genedlaethol Hwb yn beth da i fod yn falch ohono."