Croeso i wefan Tric a Chlic!

Dyma gartref newydd Tric a Chlic!

Yma gallwch ddarganfod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am raglen Tric a Chlic. Dewch i ddeall mwy am gynnwys y rhaglen, sut i gynnig cefnogaeth, neu dewch i bori drwy’r llu o syniadau ac adnoddau deniadol a lliwgar sydd ar eich cyfer. Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr sydd yn newydd i’r rhaglen neu’n ysgol sydd yn defnyddio’r rhaglen gyda’ch dysgwyr yna mae’r wefan hon yn cynnig cefnogaeth i chi!

Beth yw Tric a Chlic?

Rhaglen ffoneg synthetig yn y Gymraeg ar gyfer plant 3-7 oed yw Tric a Chlic. Mae’r rhaglen wedi ei hadeiladu o dair elfen sef,

  • clywed ac adnabod y seiniau,
  • cyfuno (adeiladu) seiniau i ddarllen
  • segmentu (torri) seiniau i sillafu.

Mae’r dull ffoneg synthetig yn canolbwyntio ar gyflwyno seiniau’r llythrennau yn hytrach na chyflwyno’r wyddor mewn trefn benodol. Drwy adnabod a dysgu’r seiniau, mae’r plant yn dechrau meithrin blociau adeiladu ffoneg yn syth, a gyda’r offer cywir, yn eu defnyddio i ddarllen geiriau syml yn gyflym:

  • wrth ddarllen gair, maent yn adnabod y llythrennau ac yn cyfuno seiniau priodol,
  • wrth ysgrifennu gair maent yn adnabod y synau ac yn ysgrifennu’r llythrennau cyfatebol.

Beth sydd yn y rhaglen?

Sut y cyflwynir Tric a Chlic i'ch plentyn?

Dysgu ac adnabod y seiniau

Adnabod a dysgu’r llythrennau drwy weld a chlywed y sain. Bydd y llythyrennau yn cael eu cyflwyno ar ffurf sain a symudiad.

Dysgu ffurfio’r llythrennau

Dysgu sut i ffurfio’r llythrennau ochr yn ochr â’r broses o adnabod a dysgu’r seiniau.

Cyfuno seiniau

Wedi i’r plant ddechrau adnabod a dysgu dwy sain yn unig byddant yn medru dechrau cyfuno’r seiniau i’w helpu i ddarllen e.e. m-a-m mam ac yna ymlaen i ysgrifennu’r geiriau newydd.

Segmentu

Dechrau adnabod y blociau adeiladu ffonig sydd o fewn gair er mwyn creu sŵn neu sain penodol. Trwy ddysgu cyfuno a segmentu ar yr un pryd, mae plant yn dod yn gyfarwydd ag adeiladu a thorri’r seiniau o fewn geiriau, e.e. mor/lo > morlo

Sut mae'r rhaglen wedi ei strwythuro?

Mae’r rhaglen wedi ei rhannu i dri cham: Cam 1, Cam 2 a Cham 3. O fewn y camau, mae’r seiniau wedi eu grwpio i liwiau penodol. Unwaith i’r plant adnabod y seiniau a chysylltu’r llythrennau â’r seiniau, byddant yn gallu cyfuno’r seiniau i ddarllen y geiriau o fewn y grŵp lliw.