Hafan

"Sylfaen i`r dyfodol mewn awyrgylch gartrefol"

Ysgol Gymraeg 11-16 oed fechan yw Ysgol Y Moelwyn. Lleolir hi ar gyrion tref arbennig Blaenau Ffestiniog a gwasanaetha ardal ddaearyddol eang gan gynnwys tref Blaenau Ffestiniog, Tanygrisiau, Manod, Llan Ffestiniog, Maentwrog, Gellilydan a Thrawsfynydd.

Mae Ysgol y Moelwyn yn ysgol sy’n gofalu am ei disgyblion gyda`i gwreiddiau yn ddwfn yn y gymuned. Yma mae pob plentyn yn bwysig ac yn cael pob cyfle i ddatblygu ac ehangu doniau. Mae Corff Llywodraethol yr ysgol, y Pennaeth a’r staff wedi ymrwymo i gynnig sylfaen da i bob disgybl mewn awyrgylch gartrefol. Yn Ysgol y Moelwyn bydd eich plentyn yn derbyn:

  1. addysg o safon uchel gan staff caredig a chydwybodol.

  2. trefn a disgyblaeth dda.

  3. awyrgylch ddiogel a chartrefol i dyfu ynddo.

  4. dewis eang o weithgareddau allgyrsiol.

  5. adnoddau a chyfleusterau safonol.


Cwricwlwm i Gymru

Byddwn ni'n cyflwyno Cwrciwlwm newydd i flwyddyn 7 ym mis Medi 2022 sy'n seiliedig ar ofynion ac egwyddorion Cwricwlwm i Gymru. Mae'r wefan hon yn amlinellu ein gweledigaeth a'n bwriad ar gyfer y cwricwlwm, yn ogystal â rhoi blâs i chi am ei gynnwys, a beth gall ein dysgwr ei ddisgwyl o ran cymorth gyda'u cynnydd.


Bydd hyn ar waith am y blynyddoedd nesaf; dewch yn ôl yn rheolaidd am ddiweddariad ar ein gwaith.

Cyflwyniad Llywodraeth Cymru ar Gwricwlwm i Gymru


Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael i chi ar wefan Hwb Cwricwlwm i Gymru fan hyn.

Os hoffech chi fwy o fanylion am unrhyw fater sydd yn codi wrth i chi ddarllen y wefan hon, yna cysylltwch gyda'r ysgol:

  • Ebost: swyddfa@moelwyn.gwynedd.sch.uk

  • Rhif Ffôn: 01766 830435