Mae angen cymorth ar frys ar leoliadau diwylliant a chwaraeon yn ystod yr argyfwng costau byw

Cyhoeddwyd 25/11/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/02/2023   |   Amser darllen munudau

Mae adroddiad a lansiwyd heddiw gan Bwyllgor Diwylliant y Senedd wedi galw am gymorth ariannol ar frys i'r sectorau diwylliant a chwaraeon i ymdopi â biliau ynni uchel a chwyddiant.

Mae lleoliadau yn dal i wynebu effeithiau'r pandemig – o ran cyfranogiad ac o ran eu hiechyd ariannol – ac felly nid ydynt mewn sefyllfa i oroesi'r storm sy’n wynebu’r wlad ar hyn o bryd.

Ar ddechrau’r pandemig, fe wnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi dros £140 miliwn yn y sectorau hyn i sicrhau eu bod yn goroesi, ond mae angen rhagor o gymorth erbyn hyn, er mwyn achub y sefydliadau hyn i sicrhau nad yw’r buddsoddiad hwn yn cael ei wastraffu.

Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cymorth i leoliadau chwaraeon a diwylliannol gyda chostau ynni y tu hwnt i chwe mis y cynllun cychwynnol. Dylid cadarnhau'r gefnogaeth hon yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach er mwyn rhoi sicrwydd tymor canolig a hir i'r lleoliadau hyn.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn a ganlyn:

  • rhoi cyllid i’r sector chwaraeon a diwylliannol er mwyn iddynt ddod yn fwy gwyrdd o ran eu defnydd o ynni - helpu sefydliadau i sicrhau bod eu hadeiladau yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn gallu cynhyrchu ynni gwyrdd ar y safle.
  • sicrhau bod ymddiriedolaethau hamdden yn gymwys i gael cymorth i ddod yn fwy gwyrdd o ran eu defnydd o ynni, gan ddefnyddio’r cymorth sydd ar gael gan gynlluniau fel yr hyn sydd ar gael gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Cyngor y Celfyddydau wrth y Pwyllgor fod yr “argyfwng sy’n wynebu'r sector mor fawr ag ar unrhyw adeg dros y ddwy flynedd diwethaf.”

Dywedodd Delyth Jewell, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol:

"Mae sefydliadau chwaraeon a diwylliannol ledled Cymru yn wynebu storm berffaith. Mae sefydliadau'n dal i ddelio ag effeithiau'r pandemig, ac erbyn hyn, gyda biliau ynni enfawr a chwyddiant ar lefelau na welwyd ers degawdau, mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithredu ar frys.

"Yn anffodus, nid dyma’r argyfwng cyntaf y mae'r sectorau hyn wedi'u hwynebu yn ystod y misoedd diwethaf. Ar ddechrau’r pandemig fe wnaethom ddysgu'r wers ei bod yn well gorymateb, yn hytrach na cheisio datrys problem fwy yn y dyfodol. Cafodd Llywodraeth Cymru ganmoliaeth haeddiannol gan y sector diwylliannol am ba mor gyflym oedd ei hymateb i COVID-19 - ond hyd yma mae ei hymateb i effaith costau cynyddol ar ddiwylliant a chwaraeon wedi methu â chyd-fynd â pha mor ddifrifol yw’r argyfwng.

"Nawr yw’r amser ar gyfer gweithredu – mae ansicrwydd ariannol a chostau cynyddol yn niweidiol iawn i'r sefydliadau hyn ac os nad yw llywodraethau'n gweithredu'n gyflym, efallai y byddwn ni'n colli llawer o wasanaethau a lleoliadau gwerthfawr ym mhob rhan o Gymru."

Dywedodd Samantha Dabb, Rheolwr lleoliad cerddoriaeth Le Pub yng Nghasnewydd:

"Mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith enfawr ar leoliadau cerddoriaeth.

"Yn anffodus, mae'n effeithio arnom ni mewn rhai ffyrdd. Rydym yn wynebu costau sy’n cynyddu’n gyflym. Mae biliau ynni wedi codi i bawb mewn ffyrdd na welwyd o’r blaen, sydd nid yn unig yn cynyddu ein biliau ein hunain ond hefyd yn gorfodi bragdai a chyflenwyr i gynyddu eu prisiau.

"Mae’r gost o wneud teithiau wedi cynyddu oherwydd y cynnydd yng nghostau’r tanwydd ar gyfer y faniau ac mewn costau gwestai.

"Yna, mae'n rhaid i ni dderbyn y ffaith bod ein cwsmeriaid hefyd yn wynebu argyfwng costau byw enfawr ac nad ydynt yn gallu fforddio dod allan i’r gigiau a phrynu cwpwl o ddiodydd sy’n golygu nad ydym yn gallu cynyddu ein prisiau a throsglwyddo'r costau cynyddol rydyn ni'n eu hwynebu ymlaen.

"Mae'r argyfwng hwn yn drychinebus i bawb.”