Y Pwyllgor Busnes

Y Pwyllgor Busnes sy’n gyfrifol am drefnu Busnes y Senedd. Dyma’r unig Bwyllgor y disgrifir ei swyddogaethau a’i gylch gwaith yn y Rheolau Sefydlog. Ei waith yw "hwyluso’r modd o drefnu trafodion y Senedd yn effeithlon", fel y nodir yn Rheol Sefydlog 11.1.

Rôl y Pwyllgor Busnes

Mae’r Pwyllgor fel arfer yn cyfarfod yn breifat bob wythnos pan fydd y Senedd yn cyfarfod. Bydd yn rhoi sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac yn penderfynu ar drefn busnes y Senedd yn y Cyfarfod Llawn. Cyhoeddir cofnodion y cyfarfodydd hyn ar ôl iddynt gael eu cytuno gan y Pwyllgor.

Gall y Pwyllgor ddewis cyfarfod yn gyhoeddus ar sail ad hoc i wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y Senedd wrth gynnal ei fusnes, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud neu ddiwygio’r Rheolau Sefydlog.

Bydd y cyfarfodydd hyn yn ddarostyngedig i’r gweithdrefnau arferol ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus a bydd croeso i’r cyhoedd eistedd yn yr oriel gyhoeddus i’w harsylwi. Mae gwybodaeth am drefnu mynd i weld cyfarfod o’r Pwyllgor ar gael yn yr adran Mynd i Gyfarfod Pwyllgor.

Amserlen y Senedd

Rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyhoeddi amserlen bob chwe mis sy'n:

  • amlinellu amserlenni'r Cyfarfod Llawn;
  • pennu'r amserau sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau eraill yn y Senedd;
  • pennu'r amserau ar gyfer cyfarfodydd grwpiau gwleidyddol;
  • rhestru'r dyddiadau ar gyfer ateb cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn.
Busnes y Senedd

Adroddiadau’r Pwyllgor Busnes

Cylch Gwaith

Y Pwyllgor Busnes sy’n gyfrifol am drefnu Busnes y Senedd. Dyma’r unig Bwyllgor y disgrifir ei swyddogaethau a’i gylch gwaith yn y Rheolau Sefydlog. Ei waith yw "hwyluso’r modd o drefnu trafodion y Senedd yn effeithlon", fel y nodir yn
Rheol Sefydlog 11.1.

Y Llywydd sy’n cadeirio’r cyfarfodydd, a bydd y Trefnydd a rheolwr busnes o bob un o’r grwpiau gwleidyddol eraill a gynrychiolir yn y Senedd hefyd yn bresennol.

Mae’r Pwyllgor fel arfer yn cyfarfod yn breifat bob wythnos pan fydd y Senedd yn cyfarfod. Bydd yn rhoi sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac yn penderfynu ar drefn busnes y Senedd yn y Cyfarfod Llawn. Cyhoeddir cofnodion y cyfarfodydd hyn ar ôl iddynt gael eu cytuno gan y Pwyllgor.

Gall y Pwyllgor ddewis cyfarfod yn gyhoeddus ar sail ad hoc i wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y Senedd wrth gynnal ei fusnes, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud neu ddiwygio’r Rheolau Sefydlog.

Bydd y cyfarfodydd hyn yn ddarostyngedig i’r gweithdrefnau arferol ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus a bydd croeso i’r cyhoedd eistedd yn yr oriel gyhoeddus i’w harsylwi. Mae gwybodaeth am drefnu mynd i weld cyfarfod o’r Pwyllgor ar gael yn yr adran Mynd i Gyfarfod Pwyllgor.

Canllawiau

Mae'r canllawiau yma wedi cael eu paratoi i gynorthwyo Aelodau i ddeall gwahanol fathau o fusnes y Senedd.

Aelodau'r Pwyllgor