Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Llyfrau Gweithgareddau SchoolBeat

Llyfr gweithgareddau ar gyfer plant 8–10 oed

21.01.2021

Mae ein llyfr gweithgareddau "Pwyllo Cyn Rhannu" ar gyfer plant 8–10 oed yn wych i feddwl am hwyl ar-lein a beth rydym yn rhannu gyda eraill.

Yn seiliedig am y gwersi sy'n cael ei darparu gan Swyddogion Heddlu Cymuned Ysgolion dros Gymru gyfan, mae'r llyfr hwn yn cael ei anelu at dysgwyr yng Ngyfnod Allweddol 2.

Rhannwch ein adnodd newydd a'ch ffrindiau a chydweithwyr, a mwynhewch y gweithgareddau!

Llyfr gweithgareddau ar gyfer plant 11–14 oed

16.11.2020

Hoffem gyflwyno ein Llyfr Gweithgareddau newydd, Parchu Fi: Parchu Ti, wedi'i anelu at ddysgwyr 11 i 14 oed. Mae'r adnodd hwn yn llawn gweithgareddau sy'n archwilio rhai pynciau pwysig am fyw'n dda gyda'i gilydd a ffynnu yn y gymuned. Ei nod yw helpu dysgwyr i ddeall pwysigrwydd parchu amrywiaeth, sut i ddangos parch at eraill a beth i'w wneud am ymddygiad sy'n amharchus, yn niweidiol neu'n drosedd casineb.

Llyfr gweithgareddau ar gyfer plant 9–11 oed

19.05.2020

Mae ein llyfr gweithgaredd rhifyn arbennig Diogelwch Rhyngrwyd allan nawr! 

Dyma ein trydydd mewn cyfres ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae'r holl weithgareddau'n seiliedig ar wersi cyfarwydd i'r plant a gyflwynir gan Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgol mewn ysgolion ac fe'u cynlluniwyd yn ofalus i atgyfnerthu negeseuon diogelwch allweddol pwysicaf SchoolBeat ar gyfer diogelu'r Rhyngrwyd.

Mae'r llyfr argraffiad hwn yn addas ar gyfer plant 9-11 oed ac ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Hoffem weld lluniau ohonoch yn cwblhau'r gweithgareddau a'ch gwaith gorffenedig. Gofynnwch i'ch rhieni neu ofalwyr eu huwchlwytho ar ein tudalen SchoolBeat Twitter, Facebook neu Instagram.

Pob lwc gyda'r gweithgareddau a mwynhewch!

Llyfr gweithgareddau ar gyfer plant 5–9 oed

01.05.2020

Rydym yn falch iawn o lansio'r ail lyfr gweithgareddau mewn cyfres ar gyfer plant a phobl ifanc. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Unwaith eto, mae'r llyfr hwn wedi'i gynllunio'n ofalus i atgyfnerthu negeseuon diogelu allweddol pwysicaf SchoolBeat.

Mae'r holl weithgareddau'n seiliedig ar wersi cyfarwydd i'r plant a ddarperir gan Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgol mewn ysgolion.

Mae'r ail lyfr hwn yn addas ar gyfer plant 5–9 oed.

Cadwch lygad allan, hefyd, am y nesaf yn y gyfres, a fydd yn rhifyn arbennig ‘Diogelwch y We’ ar gyfer 9–11 oed.

Hoffem weld eich lluniau yn cyflawni’r gwaith ac o’r gwaith gorffenedig. Gofynnwch i'ch rhieni neu ofalwyr eu llwytho i fyny ar ein Twitter SchoolBeat neu’n tudalen Facebook.

Pob lwc gyda'r gweithgareddau a mwynhewch!

Llyfr Gweithgareddau Newydd ar gyfer plant 5–7 oed

24.04.2020

Rydym yn falch iawn o fedru lansio ein llyfr gweithgareddau cyntaf mewn cyfres ar gyfer plant a phobl ifanc. Ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r llyfr wedi ei ddylunio yn ofalus i atgyfnerthu negeseuon diogelu pwysicaf SchoolBeat.

Mae’r holl weithgareddau yn seiliedig ar wersi cyfarwydd i’r plant fydd wedi eu cyflwyno gan Swyddogion Heddlu Cymunedol yn yr Ysgol.

Mae’r llyfr cyntaf hwn ar gyfer plant 5–7 oed.

Edrychwch allan hefyd am weddill y gyfres, fydd allan yn fuan i blant 7–9 oed a 9–11.

Hoffem weld eich lluniau yn cyflawni’r gwaith ac o’r gwaith gorffenedig. Gofynnwch i'ch rhieni neu ofalwyr eu llwytho i fyny ar ein Twitter SchoolBeat neu’n tudalen Facebook.

Hwyl gyda'r gweithgareddau!