Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaeth Pàs COVID y GIG bellach wedi cau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nid oes nawr unrhyw ofynion domestig i ddangos eich statws brechu.

Nid oes angen Pàs COVID y GIG mwyach i deithio dramor i unrhyw wledydd.

Os byddwch yn teithio dramor dylech edrych i weld a oes unrhyw ofynion mewn grym i gael mynd i mewn i’r gwledydd y byddwch yn ymweld â nhw neu’n teithio drwyddynt.

Cafodd Pàs COVID y GIG ei ddatblygu yng nghanol y pandemig i’ch galluogi i rannu’ch statws brechu COVID-19 mewn ffordd ddiogel. Roedd yn cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer teithio rhyngwladol, yn ogystal â rhai dibenion domestig, megis mynd i leoliadau neu ddigwyddiadau.