Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero ar 28 Ionawr, oni bai fod y sefyllfa iechyd gyhoeddus yn gwaethygu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cynllun i lacio’r mesurau lefel rhybudd dau yn raddol a symud yn ôl i lefel rhybudd sero yn parhau.

Mae’r data iechyd cyhoeddus diweddaraf yn awgrymu bod y don Omicron wedi pasio ei hanterth yng Nghymru a bod achosion o’r coronafeirws yn gostwng i lefelau tebyg i’r rhai a welwyd yn gynharach yn yr hydref. Mae nifer y cleifion Covid-19 mewn ysbytai hefyd yn gostwng.

O ddydd Gwener 21 Ionawr ymlaen, bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd sero ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored.

Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored.
  • Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl fydd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored.
  • Bydd lletygarwch awyr agored yn cael gweithredu heb y mesurau ychwanegol gofynnol a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr, fel y rheol chwech o bobl a chadw pellter cymdeithasol o 2m.
  • Bydd y Pàs Covid yn ofynnol o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr awyr agored sydd â mwy na 4,000 o bobl ynddynt os nad yw pobl yn eistedd, neu 10,000 o bobl os ydynt yn eistedd.
  • Mae’r Pàs Covid yn ofynnol ym mhob sinema, theatr a neuadd gyngerdd sydd ar agor ar hyn o bryd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos ein bod wedi pasio brig y don Omicron. Gallwn felly lacio’r mesurau lefel rhybudd dau fel rhan o’n cynllun gofalus a graddol.

“Byddwn yn dileu’r cyfyngiadau ar nifer y bobl sy’n cael ymgynnull mewn digwyddiadau awyr agored. Mae angen gofal o hyd, ond rydym yn parhau i fod yn hyderus bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn mynd i’r cyfeiriad cywir ac y gallwn, wythnos nesaf, symud yn llawn i lefel rhybudd sero, oni bai bod y sefyllfa’n newid er gwaeth.

“Rydym yn gallu gwneud hyn diolch i ymdrechion pawb yng Nghymru a’n rhaglen frechu ragorol. Mae’n bwysig bod pawb yn parhau i ddilyn y rheolau a’r canllawiau i ddiogelu eu hunain a’u hanwyliaid. Mae hyn yn cynnwys manteisio ar y cynnig o bigiad atgyfnerthu os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud hynny.”

Ddydd Gwener 28 Ionawr, bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero.

Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • Bydd clybiau nos yn ailagor.
  • Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau’r perygl o ledaenu’r coronafeirws.
  • Bydd y gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sydd ar agor i’r cyhoedd a gweithleoedd yn dod i ben.
  • Ni fydd y rheol chwech o bobl mewn grym mwyach ar gyfer ymgynnull mewn safleoedd a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
  • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig na chasglu manylion cyswllt.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori gweithio gartref ond ni fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol mwyach.

Bydd y Pàs Covid yn ofynnol o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr dan do, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.

Bydd y rheolau hunanynysu ar gyfer pawb sy’n cael canlyniad positif i brawf Covid a’r rheolau ar wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd cyhoeddus dan do yn parhau ar ôl 28 Ionawr.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal ar 10 Chwefror pan fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r holl fesurau ar lefel rhybudd sero.