Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Llun), mae amserlen yn cael ei chyhoeddi ar gyfer newidiadau i wasanaeth Profi Olrhain Diogelu Cymru, fel rhan o gynlluniau ehangach i symud yn raddol y tu hwnt i’r ymateb brys i’r pandemig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hefyd heddiw, mae Cynllun Pontio Gofal Cymdeithasol newydd yn cael ei gyhoeddi. Bydd y cynllun hwn yn nodi trefniadau newydd ar gyfer cartrefi gofal rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.

Daw’r newidiadau wrth i Gymru gymryd camau gofalus pellach heddiw i lacio rhai o’r mesurau diogelu cyfreithiol sydd wedi bod mewn grym am y rhan fwyaf o’r pandemig – ni fydd gorchuddion wyneb yn ofyniad cyfreithiol mwyach mewn siopau nac ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd y gofyniad cyfreithiol i hunanynysu ar ôl prawf positif yn dod i ben.

Serch hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori’n gryf fod pawb yn hunanynysu os oes ganddynt symptomau COVID neu os ydynt yn profi’n bositif. Bydd y taliad hunanynysu yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin. Bydd canllawiau’n cael eu cryfhau i gynghori pobl i wisgo gorchuddion wyneb ym mhob lle cyhoeddus, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, i helpu i ddiogelu Cymru.

Diben y newidiadau i’r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yw diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed, gan leihau eu risg o gael eu heintio, a sicrhau bod capasiti profi yn cael ei gynnal i fonitro brigiadau o achosion a chanfod unrhyw amrywiolion newydd.

Mae’r prif newidiadau i’r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yn cynnwys:

  • O heddiw (28 Mawrth) ymlaen, bydd pobl yn cael eu cynghori’n gryf i hunanynysu os oes ganddynt Covid. Bydd taliadau cymorth hunanynysu o £500 yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin.
  • Dydd Mercher (30 Mawrth) yw’r diwrnod olaf y gall y cyhoedd archebu profion PCR os oes ganddynt symptomau.
  • O ddydd Iau (31 Mawrth) ymlaen, bydd pob safle profi PCR yng Nghymru yn cau.
  • Bydd profion llif unffordd am ddim i brofi pobl asymptomatig yn rheolaidd mewn gweithleoedd yn dod i ben ddydd Iau (31 Mawrth), ac eithrio ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Bydd profion llif unffordd am ddim i brofi aelodau o’r cyhoedd sy’n asymptomatig yn rheolaidd yn dod i ben ddydd Iau (31 Mawrth).
  • O ddydd Gwener (1 Ebrill) ymlaen, os oes gennych symptomau COVID dylech ddefnyddio prawf llif unffordd i weld a oes gennych COVID. Gellir archebu’r rhain yn gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests neu drwy ffonio 119. Os byddwch yn profi’n bositif, dylech roi gwybod am eich canlyniad yn www.gov.uk/cofnodi-canlyniad-covid19 ac ynysu am o leiaf bum diwrnod llawn a chymryd profion llif unffordd ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech (os yw’r ddau’n negatif) cyn gorffen eich cyfnod ynysu.
  • O ddydd Gwener (1 Ebrill) ymlaen, dim ond pobl sy’n gymwys ar gyfer triniaethau COVID-19 fydd yn gallu archebu profion PCR i’w gwneud gartref.
  • Bydd profion asymptomatig rheolaidd mewn lleoliadau gofal plant ac addysg, ac eithrio darpariaeth addysg arbennig, yn dod i ben ar ddiwedd y tymor (8 Ebrill).

Hefyd heddiw, mae newidiadau’n cael eu cyhoeddi i drefniadau profi a mesurau cadw pellter cymdeithasol mewn cartrefi gofal, ynghyd â neges glir y dylid croesawu ac annog ymweliadau.

Bydd y Cynllun Pontio Gofal Cymdeithasol, y mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan wedi cytuno arno ar ôl trafodaethau â’r sector, yn cynghori cartrefi gofal ynglŷn â’r ffordd y dylent weithredu rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.

Bydd profion llif unffordd am ddim yn parhau i fod ar gael i staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen gan y sefydliadau y maent yn gweithio iddynt, fel y gallant wneud prawf ddwywaith yr wythnos. Ni fydd yn ofynnol mwyach i weithwyr cartrefi gofal wneud profion PCR wythnosol. Bydd gofalwyr di-dâl sy’n gofalu am bobl sy’n agored i niwed yn glinigol hefyd yn gallu cael profion llif unffordd drwy eu hawdurdodau lleol.

Ni ddylai darparwyr cartrefi gofal osod cyfyngiadau ar nifer yr ymwelwyr, hyd ymweliadau na pha mor aml maent yn digwydd. Os defnyddir systemau apwyntiadau, dylent hwyluso ymweliadau yn hytrach na’u cyfyngu.

Dylai ymwelwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n ymweld ddarparu tystiolaeth o ganlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn 24 awr cyn yr ymweliad. Bydd profion yn cael eu darparu am ddim i gartrefi gofal fel y gallant eu rhoi i ymwelwyr.

Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau iechyd a gofal am y tair wythnos nesaf. Mae ymwelwyr yn cael eu cynghori i barhau i wisgo masg/gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o fewn cartref gofal a phan fyddant yn symud drwy’r cartref gofal, ond cânt eu tynnu fel arall.

Bydd nifer yr ‘ymwelwyr hanfodol’ sy’n cael eu caniatáu yn ystod brigiad o achosion yn cynyddu i ddau a byddant yn cael ymweld naill ai ar wahân neu ar yr un pryd. Bydd pob aelod o staff mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yn parhau i gael ei argymell i ddefnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE). Serch hynny, gellir llacio mesurau cadw pellter cymdeithasol i staff gofal cymdeithasol, preswylwyr cartrefi gofal a phobl sy’n cael gofal gartref pan nad oes tystiolaeth bod COVID-19 yn cylchredeg. Os bydd achos lluosog neu frigiad o achosion yn digwydd, gellid ailgyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol i leddfu’r risg.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

Mae’r newidiadau hyn yn rhan o gamau i symud yn raddol y tu hwnt i’r ymateb brys i’r pandemig a dechrau byw’n ddiogel gyda coronafeirws. Byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn barod a’n bod yn gallu ymateb i unrhyw amrywiolion newydd neu frigiadau o achosion wrth inni gamu ymlaen tuag at y dyfodol newydd hwn.

Mae’n bwysig bod pobl yn cofio nad yw coronafeirws wedi diflannu. Mae popeth yr ydyn ni’n ei wneud – yr holl bethau bychain yr ydyn ni wedi dysgu eu gwneud i ddiogelu ein gilydd – yn bwysicach fyth nawr, yn enwedig hunanynysu os oes gennym symptomau neu os cawn ganlyniad prawf positif.

Drwy barhau i gydweithio, gallwn ni ddiogelu ein gilydd a diogelu Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan:

Mae’r Cynllun Pontio Gofal Cymdeithasol yn nodi trefniadau newydd i gartrefi gofal wrth inni addasu ein hymateb i’r pandemig yn ofalus. Rydyn ni wedi siarad â grwpiau ar draws y sector ac rydyn ni’n falch ein bod nid yn unig yn gallu llacio cyfyngiadau ar ymweliadau, ond hefyd eu hannog ymhellach.

Rydyn ni’n deall pa mor anodd y mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod i deuluoedd y mae’r cyfyngiadau hyn wedi effeithio arnyn nhw, gyda llawer yn methu â gweld eu hanwyliaid gymaint ag y bydden nhw’n ei ddymuno. Hoffen ni ddiolch iddyn nhw am gefnogi ein hymdrechion i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed a gobeithiwn y gallwn ni gyd edrych ymlaen at ddyfodol gwell.