Neidio i'r prif gynnwy

Mae mwy na £4.5m yn cael ei fuddsoddi mewn rhaglen sy’n ymchwilio i heintiadau COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi addo y bydd ymchwiliad i’r holl achosion COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty, ac y bydd gwersi’n cael eu dysgu i leihau’r tebygolrwydd y bydd yn digwydd i unrhyw un arall.

Bydd y cyllid yn mynd tuag at gefnogi fframwaith a ddefnyddir gan fyrddau iechyd i adrodd ar heintiadau a gafwyd yn yr ysbyty ac ymchwilio iddynt. Mae gan GIG Cymru system ar waith sy’n cofnodi pob achos o haint a gafwyd yn yr ysbyty drwy’r gronfa ddata ICNET – system sy’n gwbl unigryw yn y DU.

Bydd y buddsoddiad dros ddwy flynedd yn cefnogi byrddau iechyd ac Uned Gyflawni’r GIG i ddatblygu rhaglen o waith ymchwil bwysig a chymhleth i achosion o heintiadau COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty.

Mae’r GIG yng Nghymru wedi gweithio’n eithriadol o galed gydol y pandemig i wneud popeth posibl i gadw’r feirws allan o ysbytai ac i ddiogelu pobl sy’n derbyn gofal, a hynny’n aml mewn amgylchiadau hynod anodd.

Mae hyn wedi cynnwys rhoi mesurau rheoli heintiau trwyadl ar waith ar draws holl leoliadau’r GIG, gan gynnwys mewn ysbytai; cyfarpar diogelu personol rhad ac am ddim i holl wasanaethau’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol; cyhoeddi canllawiau mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol, y gwagle y dylid ei ganiatáu rhwng gwelyau, profi staff a chleifion, awyru a gwisgo masgiau; ac amryw o wiriadau a gynhaliwyd gan fyrddau iechyd, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Fodd bynnag, er gwaetha ymdrechion staff gofal iechyd sy’n gwneud eu gorau glas i ddarparu gofal ac atal trosglwyddiad feirws hynod heintus, ac er bod yr holl fesurau hyn ar waith a gweithwyr gofal iechyd yn cael profion fel blaenoriaeth, mae pobl wedi dal haint COVID-19 mewn ysbytai.

Haint a gafwyd yn yr ysbyty sydd i gyfrif am oddeutu 1% o’r holl heintiadau COVID-19. Mae’n drist iawn nodi, mewn rhai achosion, fod rhai unigolion wedi cael niwed neu wedi marw o ganlyniad i ddal COVID-19 yn yr ysbyty. 

Drwy gydol y pandemig, mae GIG Cymru wedi ymrwymo i ymchwilio i heintiadau COVID a gafwyd yn yr ysbyty, gan annog y teuluoedd sydd wedi’u heffeithio i gyfrannu at y broses “Gweithio i Wella” a’r Grŵp Trosglwyddiad Nosocomiaidd a sefydlwyd ym mis Mai 2020 i helpu i atal heintiau drwy ddysgu a chyhoeddi fframwaith cenedlaethol yn ymwneud â digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch cleifion o ganlyniad i heintiadau COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

Mae ein GIG yng Nghymru wedi gweithio’n eithriadol o galed i gadw’r feirws allan o ysbytai, ond yn anffodus bu’n amhosibl cyflawni hyn.

Gyda chyfraddau trosglwyddiad cymunedol yn uchel y tu allan i’r ysbyty yn ystod sawl cyfnod o’r pandemig, bu’n dasg aruthrol ceisio atal COVID-19 rhag cyrraedd ein lleoliadau gofal iechyd a lledaenu i’r rheini sy’n darparu gofal.

Gwyddom, mewn rhai achosion, fod cleifion wedi cael niwed neu wedi marw o ganlyniad i ddal COVID-19 yn yr ysbyty, ac rydym yn teimlo dros bawb sydd wedi’u heffeithio gan hyn.

Rydym yn buddsoddi yn y fframwaith hwn gan ein bod yn benderfynol o ymchwilio i bob achos o COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty, a deall pam y digwyddodd hyn fel y gallwn wneud popeth o fewn ein gallu i’w atal rhag digwydd eto. Oherwydd natur esblygol y pandemig, bydd hefyd yn cael ei adolygu ymhen dwy flynedd.