Neidio i'r prif gynnwy

Bydd busnesau a sefydliadau sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i Gronfa Cadernid Economaidd gwerth £500 miliwn Llywodraeth Cymru yn dechrau derbyn taliadau grant erbyn diwedd yr wythnos nesaf, meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers iddo agor i geisiadau wythnos yn ôl, mae ail gam y gronfa wedi derbyn bron 9,000 o geisiadau am gymorth.   

Oherwydd maint y galw, cynyddodd Llywodraeth Cymru y cyllid ar gyfer y cam hwn i £300 miliwn.  Mae oddeutu 700 o geisiadau yn cael eu gwerthuso yn ddyddiol, gyda’r rhai cyntaf bellach wedi’u cymeradwyo ar gyfer eu talu. 

Bydd saib yn y gronfa ddydd Llun 27 Ebrill yn dilyn y nifer fawr o geisiadau

Dywedodd Gweinidog yr Economi y bydd hyn yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ystyried pa gymorth pellach y mae busnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol i angen.   

Ond galwodd hefyd ar Lywodraeth y DU i fynd ymhellach gyda’i chymorth a darparu y cyllid hanfodol y mae busnesau o Gymru ei angen i oroesi ac I adfer wedi’r pandemig. 

Bydd y Gronfa Cadernid Economaidd yn cefnogi’r nifer sylweddol o fusnesau a mentrau sy’n wynebu pwysau o ran arian parod – ond mae Llywodraeth Cymru wedi datgan o’r dechrau na fydd yn bosibl cyrraedd pawb. 

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi: 

Mae’r galw ar ein Cronfa Cadernid Economaidd yn dweud y cyfan am faint yr argyfwng cenedlaethol. 

Mae nifer y ceisiadau wedi bod yn fwy nag a welwyd erioed o’r blaen, ac rwyf am ddiolch i’r tîm o swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n gweithio’n gyflym i brosesu ceisiadau a chael yr arian i gyfrifon y busnesau a’r sefydliadau hynny sydd angen yr arian hwnnw, cyn gynted â phosibl. 

Rydym wedi penderfynu rhoi seibiant i’r gronfa o ddydd Llun i edrych sut y gallwn ddefnyddio’r cyllid sy’n weddill fel y gall gwmnïau sydd ei hangen yn gallu manteisio i’r eithaf, a diogelu ein heconomi.  

Fel llywodraeth, mae gennym lawer o bethau i’w hystyried – cefnogi’r busnesau hynny nad ydym wedi gallu eu cyrraedd eto yw un o’n prif bryderon. 

Dwi’n croesawu y camau y mae Llywodraeth y DU wedi’u cymryd hyd yma yn cefnogi busnesau, ond mae llawer mwy y gall – ac y dylai – ei wneud.  

Mae angen dybryd i’r Canghellor ddysgu gwersi yn gyflym o’r cynlluniau sydd wedi’u gweithredu hyd yma, a chael yr arian allan i fusnesau yn gynt, yn un ohonynt.   

Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn mynd yn bellach drwy roi’r cymorth ariannol sydd ei angen ar gwmnïau o bob maint er mwyn goroesi ac adfer I lefelau’r twf a’r llewyrch a welwyd cyn y pandemig.

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cynnig cymorth ariannol i gefnogi busnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol i ddelio gydag argyfwng y coronafeirws, a bydd yn hanfodol i helpu sefydliadau reoli pwysau arian parod. 

Mae’n lif arian ychwanegol i Gymru, a chafodd ei gynllunio i fynd i’r afael â bylchau sydd heb eu llenwi eto gan gynlluniau a gafodd eu cyhoeddi eisoes gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru. 

Roedd cam cyntaf y gronfa, cynllun benthyciad COVID-19 Banc Datblygu Cymru gwerth £100 miliwn, wedi llenwi mewn ychydig mwy na saith niwrnod wedi i 1,600 o geisiadau gael eu cyflwyno – mewn blwyddyn arferol mae Banc Datblygu Cymru yn prosesu oddeutu 400 o geisiadau.

Rhagwelir y bydd Banc Datblygu Cymru wedi prosesu pob cais a ddaeth i law o fewn y mis.