Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal adolygiad o'r mesurau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad tair wythnos diweddaraf i fod i gael ei gynnal erbyn 3 Mawrth.

Mae’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i wella yng Nghymru – mae cyfraddau trosglwyddo yn y gymuned yn lleihau’n raddol ac mae’r don Omicron yn gostwng.

Mae’r gyfradd achosion gyffredinol – yn seiliedig ar brofion PCR positif yn unig – wedi gostwng i 158.7 o achosion am bob 100,000 o bobl ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 26 Chwefror. Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Heintiadau Coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod un o bob 30 o bobl wedi cael eu heintio yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar 19 Chwefror.

Ar 2 Mawrth, roedd 820 o gleifion cysylltiedig â Covid-19 mewn gwelyau ysbytai. Er bod hyn wedi aros yn gymharol sefydlog yn ystod yr wythnos diwethaf, mae’r lefel hon o bwysau yn sgil y pandemig yn parhau i roi straen ar wasanaethau’r GIG, sy’n delio â lefelau uchel o alw o ganlyniad i bwysau “arferol” y gaeaf ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

Rydym wedi ystyried y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn ofalus ac wedi adolygu’r mesurau diogelu sydd gennym mewn grym o hyd ar lefel rhybudd sero. Bydd y rhain yn aros mewn grym yn ystod y cyfnod adolygu hwn.

Bydd y mesurau diogelu hyn yn cael eu hadolygu eto yn yr adolygiad 21 diwrnod nesaf, y bwriedir ei gynnal ar 24 Mawrth. Os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn aros yn sefydlog, rydym yn bwriadu cael gwared ar yr holl gyfyngiadau sy’n weddill ar 28 Mawrth.

Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein cynllun pontio, sy’n olwg tymor hwy ar sut y byddwn yn symud y tu hwnt i’r ymateb argyfwng i’r pandemig ac yn rheoli Covid-19 ochr yn ochr â heintiau anadlol eraill, er mwyn parhau i ddiogelu Cymru.

Mae Gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel yn amlinellu sut y bydd Cymru yn byw’n ddiogel gyda’r coronafeirws, yn union fel y mae’n byw gyda llawer o glefydau heintus eraill, a beth y bydd hynny’n ei olygu ar gyfer y nifer o wasanaethau iechyd y cyhoedd a’r mesurau diogelu sydd mewn grym, gan gynnwys gwasanaethau profi.

Mae’n nodi dull pontio graddol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd â diogelu pawb, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, wrth ei wraidd.

Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd ymateb Cymru i’r coronafeirws yn newid o dan y ddwy senario gynllunio graidd – Covid Sefydlog a Covid Brys.

Covid Sefydlog yw’r senario fwyaf tebygol – rydym yn disgwyl dod ar draws tonnau ychwanegol o haint, ond nid oes disgwyl iddynt roi pwysau anghynaliadwy ar y GIG, diolch i effeithiolrwydd brechlynnau a thriniaethau fferyllol eraill, megis meddyginiaethau gwrthfeirol Covid-19 newydd.

Mae’r cynllun yn nodi dull graddol, fesul cam o reoli’r feirws yn y tymor hir o dan y senario Covid Sefydlog, gan gynnwys:

  • Cefnogi pobl i gynnal ymddygiadau y mae pob un ohonom wedi dod yn gyfarwydd â nhw i helpu i leihau trosglwyddiad pob haint anadlol, nid dim ond y coronafeirws.
  • Brechiadau atgyfnerthu yn y gwanwyn i bobl hŷn a’r oedolion mwyaf agored i niwed, a rhaglen frechu Covid-19 reolaidd o’r hydref ymlaen.
  • Y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu i symud yn raddol oddi wrth brofion symptomatig ac asymptomatig cyffredinol a rheolaidd a’r gofyniad i hunanynysu, tuag at ddull sy’n targedu i raddau mwy y bobl sy’n agored i niwed.
  • Addasu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys, er enghraifft, defnyddio asesiadau risg a chynlluniau rheoli brigiadau o achosion lleol.
  • Busnesau a chyflogwyr eraill i ddatblygu’r elfennau rheoli heintiau y maent wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu staff a chwsmeriaid.

Mae gwaith cynllunio wrth gefn yn mynd rhagddo hefyd i alluogi Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill i ymateb yn gyflym i senario Covid Brys – megis amrywiolyn newydd sy’n dianc rhag effaith y brechlyn – os oes angen.