Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae newidiadau wedi’u gwneud i’r gofynion hunanynysu ar gyfer pobl sydd wedi dod i gysylltiad agos ag achosion COVID-19 positif.

Ar gyfer oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn, plant 5-18 oed a phobl sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol brechlynnau, ni fydd yn ofynnol iddynt hunanynysu os nodir eu bod yn gysylltiad agos ag achos COVID-19 positif. Yn hytrach, dylent gymryd profion llif unffordd am 7 diwrnod fel mesur rhagofal.

Nid yw’r cyngor wedi newid ar gyfer plant o dan 5 oed – ni fydd angen iddyn nhw hunanynysu ac nid oes rhaid iddynt gymryd prawf PCR na phrofion llif unffordd.

Nid yw’r cyngor wedi newid chwaith ar gyfer cysylltiadau agos sydd heb eu brechu. Mae’n ofynnol iddyn nhw hunanynysu am 10 diwrnod ac fe’u cynghorir i gymryd profion PCR ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8 ar ôl dod i gysylltiad ag achos positif. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cymryd camau cyflym yn erbyn yr amrywiolyn Omicron newydd drwy gyfres o fesurau i ddiogelu Cymru a’i phobl.

Ar 3 Rhagfyr, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau i fynnu bod cysylltiadau agos achosion Omicron, tybiedig neu a gadarnhawyd, yn hunanynysu. Wrth ymateb i’r pandemig rydym bob amser wedi ceisio cydbwyso’r niwed COVID a’r niwed nad yw’n dod o COVID.  Fel bob amser, rydym yn addo peidio â chynnal rheoliadau a chyfyngiadau mewn grym yn hirach nag sy’n briodol a chymesur.

Mae lefelau Omicron wedi cynyddu’n sylweddol dros yr wythnosau diwethaf a dyma’r prif amrywiolyn mewn rhannau o’r DU nawr. Wrth i achosion gynyddu yng Nghymru, mae’n cyrraedd y pwynt lle nad yw’n gymesur na dichonadwy i seilio ein hymateb ar Omicron yn unig. Byddai mynnu bod nifer cynyddol o unigolion sydd wedi’u brechu’n llawn yn hunanynysu yn effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus critigol, ar adeg pan maen nhw dan bwysau anferth i ddiogelu Cymru. O ganlyniad, rwyf wedi newid Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 i gydbwyso bygythiad Omicron i iechyd cyhoeddus ag effaith hunanynysu ar lesiant, addysg, gwasanaethau cyhoeddus a’r economi.

Ers 22 Rhagfyr 2021, ni fydd yn ofynnol i’r canlynol hunaynysu os nodir iddynt ddod i gysylltiad agos ag achos COVID-19 positif: oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn, plant 5-18 oed a phobl sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol brechlynnau. Yn hytrach, cynghorir hwy yn gryf i gymryd profion llif unffordd am 7 diwrnod fel mesur rhagofal. Ni fydd angen i blant o dan 5 oed gymryd prawf PCR na phrofion llif unffordd.

Dyma sut mae cael gafael ar brofion llif unffordd:

  • eu casglu o fferyllfa neu fan casglu lleol: Chwiliwch am eich fferyllfa neu fan casglu agosaf a’r oriau agor (ewch i wefan nhs.uk)
  • o dan drefniadau sydd wedi’u cytuno gyda gweithleoedd a lleoliadau addysg
  • drwy archebu profion ar-lein i’w dosbarthu i’ch cartref. Ewch i GOV.UK i archebu pecynnau profi cartref Cewch archebu 1 pecyn profi cartref (yn cynnwys 7 prawf) ar y tro. Bydd yn cyrraedd o fewn 1 - 2 ddiwrnod.

At ddibenion y rheoliadau hyn mae ‘wedi’u brechu’n llawn’ yn golygu rhywun sydd wedi cael dau ddos o frechlyn a reoleiddir gan yr MHRA yn y DU (o leiaf 14 diwrnod cyn dod i gysylltiad agos â’r feirws). Nid yw’r diffiniad yn cynnwys y trydydd brechiad atgyfnerthu ar hyn o bryd.

Erys yn ofyniad cyfreithiol i bawb sydd heb eu brechu hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad ag achos positif. Os yw unrhyw un heb gael ei ddos cyntaf neu ei ail ddos, nid yw’n rhy hwyr i unigolion gysylltu â’u bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad. Fel arall, efallai bod modd mynd i ganolfan frechu galw-heibio; bydd y byrddau iechyd yn rhoi manylion eu trefniadau lleol ar eu gwefannau. Ni fydd unrhyw un sy’n dewis cael y brechlyn yn cael ei adael ar ôl.

Bydd y newidiadau hyn yn lliniaru effeithiau’r gostyngiad yn y lefelau staffio ar draws eich gweithluoedd o ganlyniad i heintiadau Omicron. Dengys y dystiolaeth fod y profion llif unffordd 90% yn effeithiol wrth ganfod y rhai sydd fwyaf heintus pan gymerant y prawf ac felly’n fwyaf tebygol o drosglwyddo’r feirws i eraill. Mae symud i brofion dyddiol yn gam cymesur i atal trosglwyddiad tra’n amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus rhag absenoldebau staff sylweddol. Mae Ap COVID_19 y GIG yn parhau i gefnogi ein system Profi Olrhain a Diogelu a chaiff ei ddiweddaru i roi gwybodaeth i’r defnyddwyr i’r hysbysu am y newidiadau yng Nghymru.

Bydd y cynnig Diogelu yn parhau i ddarparu cefnogaeth hirdymor i’r rhai sydd angen cymorth i hunanynysu, gan gynnwys help i gael bwyd a nwyddau o’r fferyllfa. Mae cymorth ariannol ar gael hefyd i’r rhai y gofynnwyd iddynt hunanynysu, drwy’r system Profi Olrhain Diogelu os ydynt yn ateb y meini prawf i fod yn gymwys.

Efallai y bydd Aelodau’n ymwybodol bod canllawiau newydd wedi dod i rym yn Lloegr ddydd Mercher 22 Rhagfyr ar gyfer pobl sy’n profi’n bositif ar gyfer COVID-18. Yno, bydd y rhai sy’n cael canlyniadau LFT negatif ar ddiwrnod 6 a 7 o’u cyfnod hunanynysu – gyda 24 awr rhwng y ddau brawf – yn gallu rhoi’r gorau i hunanynysu.

Ar hyn o bryd, nid oes newid i’r rheol hunanynysu 10 diwrnod ar gyfer achosion positif yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion i roi systemau yn eu lle i alluogi newid o 5ed Ionawr pe bai’r pwysau tebygolrwydd yn newid gyda chynnydd yn y nifer o achosion yn peryglu ein gallu i ddarparu gwasanaethau critigol.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os yw aelodau’n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan ddaw’r Senedd yn ôl, b