Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddais ddydd Llun y byddai addysg yng Nghymru yn symud tuag at ddull sy’n seiliedig ar fframwaith yn nhymor yr hydref. Nid yw hyn yn golygu cael gwared ar fesurau lliniaru ar raddfa eang, ond byddai’n golygu y gall ysgolion, colegau, prifysgolion a darparwyr dysgu wneud penderfyniadau ar sail cydbwyso niwed a tharfu cyn lleied â phosibl ar ddysgu – a hyn oll yng nghyd-destun fframwaith cenedlaethol a’n rhaglen frechu lwyddiannus.

Yn gyntaf, hoffwn ailbwysleisio pa mor bwysig yw hi i staff mewn lleoliadau addysg fanteisio ar y brechlyn a gynigir a hoffwn hefyd annog ein myfyrwyr a’n dysgwyr sy’n oedolion dros 18 oed i gael y brechlyn cyn gynted â phosibl, fel y gallwn weld cyfran uchel ohonynt wedi cael eu brechu ddwywaith cyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.

I ddysgwyr sy’n oedolion mewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach, addysg seiliedig ar waith neu addysg yn y gymuned, rydym yn obeithiol y byddwn, o dymor yr hydref ymlaen, o fewn yr amgylchedd addysgu a dysgu, yn gallu symud oddi wrth y model pellter cymdeithasol llym o 2m ar gyfer myfyrwyr prifysgol, dysgwyr sy’n oedolion a dysgwyr rhan-amser. Bydd hyn yn caniatáu rhagor o ddysgu wyneb yn wyneb yn ystod tymor yr hydref os byddwn yn parhau i weld risg isel i gymedrol.

I ddysgwyr sy’n oedolion mewn Addysg Uwch neu Addysg Bellach, golyga hyn y gall ein prifysgolion, ein colegau a’n darparwyr dysgu wneud cynlluniau ar sail grwpiau cyswllt pan fo asesiadau risg yn dangos ei bod yn ddiogel gwneud hynny.

Ein hegwyddor ganllaw yw symud tuag at allu gweithredu mor “normal” â phosibl ym maes addysg yn ystod yr hydref, ac felly rydym yn cynllunio ar y sail y bydd addysg i oedolion yn gweithredu yn unol â’r hyn y gallwn ei wneud yn y gymdeithas ehangach. Er mwyn galluogi hyn, rydym yn bwriadu modelu grwpiau cyswllt addysg oedolion ar sail niferoedd grwpiau sy’n ymgynnull mewn rhannau eraill o fywyd; modelu ar fwy nag un grŵp o hyd at 6, neu grwpiau unigol o hyd at 30, yn dibynnu ar y lleoliad, capasiti’r ystafell ac asesiadau risg y lleoliad, a rhaid iddynt fod yn unol â'r gofynion i gymryd pob mesur rhesymol. Bydd hyn yn berthnasol pan fydd y lefelau risg yn isel i gymedrol a bod gennym fesurau lliniaru cadarn eraill ar waith.

Drwy gael grwpiau cyswllt ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion, gellir cynnal rhagor o ddysgu wyneb yn wyneb. Rhaid inni roi blaenoriaeth i ailgydbwyso’r niwed i addysg ac i’n dysgwyr. Mae’n bosibl y byddwn yn parhau i weld cysylltiadau agos yn gorfod hunanynysu os bydd y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yn credu y dylent. Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid yn yr wythnosau nesaf i ddatblygu fframwaith ac yn darparu rhagor o ganllawiau manwl ar sut y bydd y grwpiau hyn yn gweithio.

Os bydd cyfyngiadau yn y gymdeithas ehangach yn parhau i gael eu lleddfu, byddai'r un cyfyngiadau'n berthnasol i addysg oedolion mewn prifysgolion, colegau, waith ac addysg a dysgu cymunedol.

Rwy’n ddiolchgar iawn i bob un o’n staff addysg sydd wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi dysgwyr drwy gydol y pandemig ac sydd wedi helpu i sicrhau bod eu lleoliadau mor ddiogel rhag Covid â phosibl.

Rhaid i ni i gyd gofio, wrth i ni ddechrau gallu gwneud mwy, ei bod yn bwysig parhau i gadw’n hunain a Chymru yn ddiogel drwy hunanynysu pan fyddwn yn teimlo’n sâl, cael profion rheolaidd, cefnogi Profi Olrhain Diogelu, gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, cofio golchi ein dwylo a rhoi sylw i sicrhau awyru da.