Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddoe, cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £120m ychwanegol ar gael ar gyfer clybiau nos, digwyddiadau, manwerthu, lletygarwch, hamdden, busnesau twristiaeth a'u cadwyni cyflenwi yr effeithiwyd arnynt gan y symudiad i lefel rhybudd dau – dwbl y pecyn £60m a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.

Bydd gwefan Busnes Cymru yn cael ei diweddaru wrth i'r cynlluniau fod ar gael cyn gynted â phosibl.

Bydd y cyllid yn cynnwys tair elfen.

Grantiau cysylltiedig ag Ardrethi Annomestig (NDR) o hyd at £6,000. Bydd angen i fusnesau ailgofrestru eu manylion drwy broses ar-lein gyflym a hawdd er mwyn derbyn eu taliadau. Bydd cofrestru ar agor drwy wefannau awdurdodau lleol o 10 Ionawr 2022.

Bydd Awdurdodau Lleol hefyd yn darparu cronfa ddewisol i gefnogi unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a busnesau nad ydynt yn talu ardrethi, gyda grantiau o £500 - £2000.

Y drydedd elfen yw ailagor Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru. Ar ben grantiau sy'n seiliedig ar Ardrethi Cenedlaethol, bydd y gronfa hon yn gweld grantiau o hyd at £25,000 ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden yr effeithiwyd arnynt yn ddifrifol – a'u cadwyni cyflenwi. Fel gyda chylchoedd ERF blaenorol, bydd hyn yn cefnogi busnesau sydd wedi gweld gostyngiad o fwy na 60% yn eu trosiant.

Bydd gwiriwr cymhwysedd ar gael ar wefan Busnes Cymru yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd gyda cheisiadau'n agor yn ystod yr wythnos yn dechrau 17 Ionawar.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymestyn y cymorth hwn i fanwerthu nad yw'n hanfodol fel y bydd siopau llai yn cael eu cefnogi a gall ein strydoedd mawr barhau i ffynnu. Yn Lloegr, nid oes cymorth ar gael i fanwerthu nad yw'n hanfodol.

Mae'r pecyn £120m wedi'i gynllunio i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan ledaeniad Omicron drwy'r cyfnod 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022. Mae'r amserlen hon yn gysylltiedig ag effaith ddisgwyliedig Omicron ar fusnesau Cymru. Nid yw'n seiliedig ar y disgwyliad y bydd y cyfyngiadau'n parhau i ganol mis Chwefror. Bydd Gweinidogion yn parhau i fonitro'r data a'r cyngor gwyddonol sy'n llywio penderfyniadau ar gyfyngiadau fel rhan o'r cyfnodau adolygu rheolaidd.

Ar 21 Rhagfyr, cyhoeddodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £5.25m ar gael i gynorthwyo sefydliadau celfyddydol, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a sinemâu annibynnol Cymru sydd â'r angen mwyaf drwy fisoedd y gaeaf.

Bydd symud i lefel rhybudd dau yn cael effaith bellach ar fusnesau yn y sector diwylliannol. Gan fod yr effaith yn cael ei deall yn well rwyf wedi gofyn i swyddogion lunio cylch pellach o'r Gronfa Adfer Diwylliannol, pe bai angen.

Bydd rhagor o fanylion am y cronfeydd hyn a sut i wneud cais yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

O ganlyniad i'r pecynnau cymorth brys newydd, mae Llywodraeth Cymru yn tynnu ei Chronfa Cymorth Busnes gwerth £35m yn ôl, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, er mwyn ail-ddyrannu a phrosesu taliadau brys cyn gynted â phosibl. Bydd yr holl gynigion presennol, wrth gwrs, yn cael eu hanrhydeddu.

Bydd y cyllid hwn yn cael ei addasu at ddibenion gwahanol, gyda Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro effaith lledaeniad Omicron ar fusnesau yng Nghymru a byddwn yn ystyried a oes angen cyllid brys ychwanegol yn y flwyddyn newydd.

Nodiadau - Symiau grant cysylltiedig Ardrethi Annomestig (NDR) ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth

  • Bydd busnesau busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth
  • sy'n derbyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach (SBRR) a chyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys i gael taliad o £2,000.
  • Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys i gael taliad o £4,000 os bydd y cyfyngiadau'n effeithio arnynt.
  • Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sydd â gwerth ardrethol o rhwng £51,001 a £500,000 yn gymwys i gael taliad o £6,000 os bydd y cyfyngiadau'n effeithio arnynt. NERHLT sydd â gwerth ardrethol o rhwng £51,001 a £500,000 yn gymwys i gael taliad o £6,000 os bydd y cyfyngiadau'n effeithio arnynt.
  • Bydd busnesau cymwys y gadwyn gyflenwi yn gymwys i gael cymorth os oes ganddynt ostyngiad o fwy na 40% mewn trosiant yn ystod y cyfnod cyfyngu.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.