Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu'r capasiti ar gyfer dod o hyd i unrhyw achosion o’r amrywiolyn Omicron yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno rhaglen gynhwysfawr ar gyfer profi am achosion tebygol o’r amrywiolyn Omicron ar draws labordai GIG Cymru. Bydd gwasanaeth saith diwrnod yr wythnos yn cael ei roi ar waith a fydd yn prosesu canlyniadau profion a phennu union fanylion yr amrywiolyn o fewn 24 awr i dderbyn canlyniad prawf COVID-19 positif.

Yn ogystal â chynyddu capasiti labordai GIG Cymru, bydd y Labordai Goleudy sy'n gweithredu o dan raglen brofi'r DU hefyd yn defnyddio technoleg i nodi mwtaniadau sy'n gysylltiedig â’r amrywiolyn Omicron er mwyn dod o hyd i achosion tebygol.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron yn rhybudd difrifol nad yw'r pandemig drosodd eto. Mae’n bosibl bod yr amrywiolyn Omicron yn lledaenu'n llawer cyflymach nag amrywiolion eraill. Rhaid inni oedi lledaeniad Omicron yng Nghymru, ac i wneud hynny mae angen inni weithredu’n gyflym ar gyfer dod o hyd i achosion ohono.

Drwy gydol y pandemig, mae profion wedi chwarae rhan hollbwysig ac rydym am ddod o hyd i unrhyw achosion o’r amrywiolyn Omicron yma yng Nghymru yn gyflym. Bydd gwneud hyn, ochr yn ochr â’r mesurau eraill sydd eisoes ar waith, yn ein helpu ni i ddiogelu Cymru unwaith eto.

Dywedodd Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diogelu Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Bydd y newidiadau hyn yn cryfhau’r ymateb i COVID yng Nghymru drwy ddod o hyd i achosion o’r
amrywiolyn Omicron yn gyflym. Diolch o waelod calon i’r holl staff yn ein labordai ym mhob cwr o Gymru, ac i’n partneriaid ar draws y GIG, sydd wedi gweithio’n ddiflino i gyflwyno’r gwelliannau hyn. Mae pob canlyniad prawf COVID-19 positif yng Nghymru yn awr yn cael ei sgrinio fel mater o drefn i weld a yw’n achos o’r amrywiolyn Omicron. 

Hoffem atgoffa aelodau’r cyhoedd y gallant ein helpu i ddod o hyd i achosion o’r amrywiolyn Omicron yn gyflym, ac atal ei ledaeniad, drwy hunanynysu ar unwaith a threfnu i gael prawf coronafeirws yn rhad ac am ddim os byddant yn datblygu symptomau. Gallant hefyd helpu i amddiffyn eu hunain, eu cymunedau a’r GIG drwy dderbyn y cynnig o frechlyn.