Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus o dan do wedi dod i ben.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r newid hwn yn golygu na fydd gofyniad cyfreithiol bellach ar bobl i wisgo gorchuddion wyneb mewn ystod o leoliadau o dan do, gan gynnwys sinemâu, theatrau, canolfannau cymunedol, amgueddfeydd a champfeydd.

Er hyn, bydd gwisgo gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol i oedolion a phlant sy’n 11 oed ac yn hŷn, os nad ydynt wedi’u heithrio, ym mhob lleoliad manwerthu ac mewn rhai lleoliadau eraill gan gynnwys busnesau trin gwallt a harddwch, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal.

Yn ogystal, bydd canllawiau swyddogol yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd gorchuddion wyneb yn un ffordd o helpu i ddiogelu pobl.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau bod yr amddiffyniadau sydd gennym yn eu lle yn gymesur â sefyllfa iechyd y cyhoedd a’r risg yn sgil y coronafeirws.

“Gyda diolch i’r gwaith caled gan bawb a’r holl maent wedi’i aberthu, mae achosion o’r coronafeirws yn gostwng ledled Cymru. Nawr yw’r amser iawn i lacio’r gofyniad cyffredinol i wisgo gorchudd wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus o dan do.

“Ond byddwn yn parhau â’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb, gan gynnwys mewn lleoliadau manwerthu, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n cael eu defnyddio’n helaeth ac sy’n sectorau hanfodol.

“Mae hyn yn rhan o’n hymateb pwyllog a gofalus i’r pandemig. Byddwn yn parhau i ystyried y dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf er mwyn llywio’n dull gweithredu.

“Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf yn gosod ein cynlluniau hirdymor ar gyfer delio â’r pandemig wrth inni gynnal yr adolygiad tair wythnos rheolaidd o’r rheoliadau.”

Wrth i ysgolion ddychwelyd heddiw ar ôl eu gwyliau hanner tymor, byddant yn dychwelyd i ddefnyddio eu fframwaith penderfynu lleol, gan wneud penderfyniadau a fydd yn adlewyrchu’r risgiau lleol.

Ni fydd gwisgo gorchuddion wyneb mewn dosbarthiadau bellach yn ofynnol fel mater o drefn arferol, ond dylid parhau i’w gwisgo mewn mannau cymunedol mewn ysgolion uwchradd.

Y gofyniad sy’n cael ei lacio heddiw yw’r cam diweddaraf yn y newidiadau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn yr adolygiad tair wythnos diwethaf o reoliadau’r coronafeirws.

Mae gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn mannau manwerthu, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol i oedolion a phlant sy’n 11 oed ac yn hŷn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai’r gofyniad cyfreithiol hwn ddod i ben erbyn diwedd mis Mawrth, os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella.

Bydd canlyniadau’r adolygiad nesaf o’r rheoliadau yn cael eu cyhoeddi ar 4 Mawrth pan fydd yr holl fesurau sy’n weddill ar lefel rhybudd sero yn cael eu hadolygu.