Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn cyngor gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ac yng ngoleuni'r cynnydd cyflym mewn achosion o Omicron, mae Prif Swyddogion Meddygol y DU a Chyfarwyddwr Meddygol Cenedlaethol GIG Lloegr wedi argymell i'r Gweinidogion y dylai Lefel Rhybudd COVID y DU gael ei chodi o Lefel 3 i Lefel 4.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r trosglwyddo ar COVID-19 eisoes yn uchel yn y gymuned, yn parhau i gael ei yrru gan Delta yn bennaf, ond mae ymddangosiad Omicron yn ychwanegu risg bellach sy'n cynyddu'n gyflym i'r cyhoedd a gwasanaethau gofal iechyd.

Mae tystiolaeth gynnar yn dangos bod Omicron yn lledu yn gynt o lawer na Delta a bod y warchodaeth drwy'r brechlyn rhag afiechyd symptomatig Omicron yn cael ei lleihau. Bydd data am ddifrifoldeb yn dod yn gliriach yn ystod yr wythnosau nesaf ond mae'r niferoedd sy'n mynd i ysbytai oherwydd Omicron eisoes yn digwydd ac maent yn debygol o gynyddu'n gyflym.

Pan fydd y warchodaeth gan y brechlyn yn cael ei lleihau yn y ffordd y mae'n digwydd gydag Omicron, mae'n hanfodol ychwanegu at y warchodaeth honno gyda brechlyn atgyfnerthu. Mae'r ddau frechlyn atgyfnerthu (Pfizer a Moderna) yn cynyddu'r ymateb imiwn yn sylweddol ac yn dangos effeithiolrwydd da er gyda rhywfaint o ostyngiad o gymharu â Delta.

Ar hyn o bryd mae'r GIG dan bwysau sy'n cael ei achosi'n bennaf gan bwysau nad yw'n ymwneud â COVID. Gydag amrywiolyn yn lledu a gyda mwy o drosglwyddo a llai o effeithiolrwydd gan y brechlyn, rydym yn debygol o weld y pwysau hwn yn cynyddu'n fuan.

Mae'n hynod bwysig, os ydych chi'n gymwys, eich bod chi'n cael eich brechlyn COVID nawr - boed yn ddos cyntaf, ail ddos neu'n frechlyn atgyfnerthu.

Dylai pobl barhau i gymryd rhagofalon synhwyrol gan gynnwys awyru ystafelloedd, defnyddio gorchuddion wyneb, profi'n rheolaidd ac ynysu pan fyddant yn dangos symptomau.

 
Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty
Prif Swyddog Meddygol Gogledd Iwerddon, yr Athro Syr Michael McBride
Prif Swyddog Meddygol yr Alban, yr Athro Gregor Smith
Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton
Cyfarwyddwr Meddygol Cenedlaethol GIG Lloegr, yr Athro Stephen Powis.