Neidio i'r prif gynnwy

Beth ddylech chi ei wneud os oes gennych symptomau haint anadlol neu os ydych wedi profi’n bositif am COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Symptomau heintiau anadlol, gan gynnwys COVID-19

Gall heintiau anadlol gael eu trosglwyddo’n hawdd rhwng unigolion. Mae’n bwysig ichi fod yn ymwybodol o’r symptomau er mwyn ichi allu cymryd camau i leihau’r risg o ledaenu haint i bobl eraill. 

Gall symptomau gynnwys:

  • peswch cyson
  • tymheredd uchel, twymyn neu’n teimlo’n oer
  • colli eich synnwyr o flas neu arogl arferol, neu sylwi ar newid ynddo
  • bod yn fyr eich anadl
  • teimlo’n flinedig, neu’n ddi-egni heb esboniad
  • teimlo dolur yn y cyhyrau neu boenau nad ydynt yn gysylltiedig â gwneud ymarfer corff
  • dim awydd bwyta neu golli archwaeth bwyd
  • pen tost/cur pen sy’n anarferol neu sy’n para mwy o amser na’r arfer
  • llwnc tost/dolur gwddf, a’r trwyn yn llawn neu’n rhedeg
  • dolur rhydd
  • chwydu neu’n teimlo fel chwydu

Bellach, mae mynediad at brofion COVID-19 am ddim yn canolbwyntio ar helpu i reoli cleifion yn glinigol a nodi unigolion agored i niwed a fyddai’n elwa o gael triniaeth wrthfeirol benodol ar gyfer COVID-19 neu’r ffliw. Gall profion hefyd gefnogi gwyliadwriaeth, gweithgarwch rheoli heintiau a’r gwaith o reoli digwyddiadau neu frigiadau o achosion mewn lleoliadau caeedig.

Beth ddylech chi ei wneud os oes gennych symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19

  • Dylech gael digon o orffwys ac yfed digon o ddŵr. 
  • Gallwch ddefnyddio meddyginiaethau fel paracetamol i helpu gyda'ch symptomau. Nid yw defnyddio gwrthfiotigau yn cael ei argymell ar gyfer heintiau anadlol feirysol oherwydd ni fyddant yn lleddfu eich symptomau nac yn eich helpu i wella’n gyflymach.
  • Dylech chi aros gartref ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill tan na fydd gennych dymheredd uchel mwyach neu tan y byddwch yn teimlo'n well. Gallech ofyn i ffrindiau, teulu neu gymdogion gael bwyd a hanfodion eraill ichi.
  • Dylech weithio gartref pan fydd modd. Os na allwch weithio gartref, siaradwch â'ch cyflogwr am eich opsiynau.
  • Os gofynnwyd ichi fynd i apwyntiad meddygol neu ddeintyddol yn bersonol, rhowch wybod iddynt am eich symptomau.
  • Dylech chi ddweud wrth bobl rydych wedi bod mewn cysylltiad â nhw'n ddiweddar eich bod yn teimlo'n sâl. Mae hyn yn golygu y gallant gadw golwg am arwyddion neu symptomau.
  • Os ydych yn pryderu am eich symptomau, os ydyn nhw’n gwaethygu, neu os na allwch ymdopi gartref mwyach, ceisiwch gyngor meddygol drwy gysylltu â'ch meddyg teulu neu wasanaeth 111 y GIG. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Plant a phobl ifanc 18 oed ac iau sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19

Mae heintiau anadlol yn gyffredin mewn plant, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.

Ni fydd yr heintiau hyn yn ddifrifol ar gyfer y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc. Ychydig iawn ohonynt sy’n mynd yn ddifrifol wael. Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau tymor hir. Fodd bynnag, mae rhai plant o dan 2 flwydd oed yn gallu mynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i gyflwr anadlol o'r enw y feirws syncytiol anadlol (RSV). Mae hyn yn cynnwys y rhai a anwyd cyn amser neu’r rhai sydd â chyflwr ar y galon.

Mae derbyn addysg yn bwysig ar gyfer datblygiad, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc. Ni ddylid diystyru effaith hirdymor colli addysg.

Gall plant a phobl ifanc sydd â symptomau ysgafn barhau i fynd i’w lleoliad addysg neu eu meithrinfa. Mae symptomau ysgafn yn cynnwys y trwyn yn rhedeg, llwnc tost/dolur gwddf neu beswch ysgafn mewn plant sydd fel arall yn iach. 

Dylid eu hannog i orchuddio eu ceg pan fyddant yn pesychu neu disian. Dylent olchi eu dwylo ar ôl defnyddio neu waredu ar hancesi papur.

Dylai plant a phobl ifanc sy'n sâl ac sydd â thymheredd uchel aros gartref. Dylent osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill lle bo modd. Gallant fynd yn ôl i'w lleoliad addysg neu eu meithrinfa pan nad oes ganddynt dymheredd uchel bellach, ac maent yn ddigon iach i wneud hynny.

Gall fod yn anodd gwybod pryd i ofyn am help os yw eich plentyn yn sâl. Os ydych yn poeni am eich plentyn, yn enwedig os yw o dan 2 flwydd oed, yna dylech geisio cymorth meddygol.

Beth ddylech chi ei wneud os byddwch yn profi’n bositif am COVID-19

Nid yw profion COVID-19 ar gael am ddim ar gyfer y rhan fwyaf o bobl bellach, a dylai pobl ddilyn y cyngor uchod os oes ganddynt symptomau. Fodd bynnag, dylai’r bobl hynny sy’n gallu cael profion y GIG am ddim, neu sy’n dewis prynu profion yn breifat, ddilyn y cyngor isod os byddant yn profi’n bositif:

  • Dylech geisio aros gartref ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill tan y byddwch yn teimlo’n well, tan na fydd gennych dymheredd uchel mwyach (os oedd gennych un) a than y byddwch yn barod i wneud gweithgareddau arferol eto. Yn benodol, dylech osgoi dod i gysylltiad ag unrhyw un sydd mewn mwy o berygl o fod yn sâl iawn os ydynt yn dal haint anadlol acíwt.
  • Gweithiwch gartref os gallwch wneud hynny. Os na allwch weithio gartref, siaradwch â'ch cyflogwr am eich opsiynau.
  • Os gofynnwyd ichi fynd i apwyntiad meddygol neu ddeintyddol yn bersonol, rhowch wybod iddynt am eich symptomau a chanlyniad eich prawf positif.
  • Dylech chi roi gwybod i bawb yn eich cartref am eich canlyniad prawf COVID-19 positif. Mae COVID-19 yn heintus am hyd at 2 ddiwrnod cyn ichi ddechrau teimlo'n sâl, neu ddyddiad eich prawf. Felly, dylech chi ddweud wrth unrhyw un roeddech chi wedi dod i gysylltiad agos â nhw yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn golygu y gallaint gadw golwg am unrhyw arwyddion neu symptomau.

Os gwnaethoch gymryd prawf y GIG a’ch bod yn gymwys i gael triniaethau COVID-19, dylech roi gwybod am eich canlyniad positif gan ddefnyddio Ffurflen Hunangyfeirio Gwrthfeirol COVID-19 GIG 111 Cymru. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd gallwch roi gwybod am eich canlyniad drwy ffonio GIG 111. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau pellach ar roi gwybod am ganlyniadau profion a chael mynediad at driniaeth ar ein tudalennau triniaeth COVID-19.

Os nad ydych yn gymwys i gael triniaethau COVID-19 peidiwch â rhoi gwybod am eich canlyniad ar unrhyw un o wefannau’r llywodraeth, neu’r GIG. Dylech ddilyn y cyngor uchod.

Os ydych yn pryderu am eich symptomau, os ydyn nhw’n gwaethygu, neu os na allwch ymdopi gartref mwyach, ceisiwch gyngor meddygol drwy gysylltu â'ch meddyg teulu neu wasanaeth 111 y GIG. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Os oes rhaid ichi adael eich cartref pan fyddwch yn sâl

Os oes rhaid ichi adael eich cartref, ceisiwch wneud hyn mor ddiogel â phosibl. Bydd y camau canlynol yn lleihau'r siawns o drosglwyddo'ch haint i eraill:

  • gwisgwch fasg wyneb sy’n ffitio'n dda
  • dylech chi osgoi mannau gorlawn fel trafnidiaeth gyhoeddus, cynulliadau cymdeithasol mawr, neu unrhyw le caeedig neu sydd wedi'i awyru'n wael
  • peidiwch â mynd i leoedd lle rydych chi'n gwybod y bydd pobl sydd mewn mwy o berygl o COVID-19, fel ysbytai a chartrefi gofal
  • gwnewch unrhyw ymarfer corff yn yr awyr agored mewn mannau lle na fyddwch yn dod i gysylltiad agos â phobl eraill
  • gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn pan fyddwch yn peswch neu’n disian. Golchwch eich dwylo’n aml gyda sebon a dŵr am 20 eiliad neu defnyddiwch hylif hylendid dwylo ar ôl peswch neu disian a chwythu eich trwyn a chyn ichi fwyta neu drafod bwyd
  • osgowch gyffwrdd eich wyneb

Sut i leihau lledaeniad heintiau anadlol gan gynnwys COVID-19 yn eich cartref

Os oes gennych haint, mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu i'w atal rhag lledaenu i eraill yn eich cartref:

  • cadwch eich pellter oddi wrth bobl eraill
  • sicrhewch fod digon o awyr iach yn yr ystafelloedd rydych chi ynddynt drwy agor ffenestri a'u gadael ar agor am 10 munud o leiaf wedi ichi adael yr ystafell
  • golchwch eich dwylo'n aml a gorchuddiwch eich ceg a'ch trwyn wrth beswch neu disian
  • glanhewch yn rheolaidd unrhyw arwynebau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml, fel dolenni drysau a theclynnau rheoli o bell, a mannau a rennir fel ceginau ac ystafelloedd ymolchi
  • ystyriwch wisgo masg wyneb sy’n ffitio’n dda. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn byw gyda rhywun sydd â chyflyrau iechyd cronig neu sydd â system imiwnedd wan
  • dywedwch wrth unrhyw un sydd angen dod i mewn i'ch cartref eich bod wedi profi'n bositif am haint anadlol, neu fod gennych symptomau haint o’r fath, fel y gallant amddiffyn eu hunain. Gallant wneud hyn drwy wisgo masg wyneb, cadw eu pellter os gallant, a golchi eu dwylo'n aml

Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn gyswllt agos i rywun sydd â haint anadlol, gan gynnwys COVID-19

Y bobl hynny sy’n byw yn yr un cartref â rhywun sydd â haint anadlol sydd fwyaf agored i’r risg o ddal yr haint, gan fod tebygolrwydd uwch eu bod wedi dod i gysylltiad agos am gyfnod hirach. Mae’r risg yn uchel hefyd i unrhyw un a arhosodd dros nos yn yr un cartref ag unigolyn sydd â haint anadlol tra bo’r unigolyn yn heintus.

Gallwch leihau’r perygl i bobl eraill drwy gymryd y camau canlynol:

  • Rhowch sylw manwl i brif symptomau heintiau anadlol. Os byddwch yn datblygu unrhyw un o’r symptomau hyn, fe'ch cynghorir i aros gartref a dilyn y canllawiau uchod.
  • Dylech osgoi dod i gysylltiad ag unrhyw un rydych chi'n ei adnabod sydd mewn mwy o berygl o fod yn sâl iawn os ydych chi wedi eich heintio â haint anadlol acíwt. Mae unigolion sydd â system imiwnedd wan mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol oherwydd COVID-19 a’r ffliw, hyd yn oed pan fyddant wedi’u brechu.
  • Gweithiwch gartref pan allwch chi wneud hynny.
  • Cyfyngwch ar gysylltiad agos â phobl eraill o dan do.
  • Ystyriwch wisgo masg wyneb addas sy’n ffitio’n dda os oes raid ichi ddod i gysylltiad agos â phobl eraill, neu os ydych chi mewn man gorlawn.
  • Golchwch eich dwylo'n aml gyda sebon a dŵr neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo.
  • Os byddwch yn datblygu symptomau unrhyw haint anadlol, ceisiwch aros gartref. Dylech osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill a dilyn y canllawiau i unigolion sydd â symptomau.

Os ydych wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd â haint anadlol ond nid ydych yn byw gyda nhw, ac ni arhosoch yn eu cartref dros nos, mae llai o berygl ichi gael eich heintio. Felly, nid oes rhaid i chi ddilyn yr holl gyngor uchod, ond dylech roi sylw manwl i brif symptomau heintiau anadlol. Os byddwch yn datblygu unrhyw un o’r symptomau hyn, fe’ch cynghorir i aros gartref a dilyn y canllawiau uchod ar gyfer pobl sydd â’r symptomau.

Cyflogaeth ac aros gartref

Dylai busnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau ystyried y peryglon sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn yr un modd ag y maent yn ei wneud ar gyfer pob clefyd trosglwyddadwy arall (er enghraifft, y ffliw a norofeirws). Nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol bellach iddynt gynnal asesiad risg sy’n benodol i’r coronafeirws.

Rydym yn cynghori pob busnes, cyflogwr a threfnydd digwyddiadau i barhau i weithredu mesurau rheoli iechyd y cyhoedd effeithiol. Bydd y rhain yn helpu i ddiogelu gweithwyr, contractwyr, ymwelwyr a chwsmeriaid rhag dod i gysylltiad â heintiau anadlol a’u lledaenu. Y ffordd fwyaf effeithiol o atal unrhyw glefyd trosglwyddadwy rhag lledaenu mewn unrhyw safle yw atal y feirws rhag bod yn bresennol yn y lle cyntaf.

Dylai staff geisio aros gartref os ydynt yn dangos symptomau haint anadlol neu os nad ydynt yn teimlo’n ddigon da i fynd i’r gwaith.

Dylai cyflogwyr ystyried pa gamau y dylent eu cymryd os yw aelod o staff yn dangos unrhyw symptomau o glefyd trosglwyddadwy (er enghraifft, y ffliw, COVID-19 neu norofeirws) neu os ydynt wedi profi’n bositif am COVID-19. Bydd yr hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys, a yw’n ymarferol i’r gwaith gael ei wneud gartref (gweler hefyd y cyngor iechyd y cyhoedd uchod ar weithio gartref).

Os yw’n bosibl, byddai Llywodraeth Cymru yn annog cyflogwyr i drafod a chytuno ar unrhyw newidiadau i’r drefn rheoli absenoldeb gyda’r gweithlu a chyda’r undebau llafur cyn i unrhyw newidiadau gael eu rhoi ar waith.

Cymorth ariannol os na allwch chi weithio

Dylech ddweud wrth eich cyflogwr os ydych yn teimlo’n sâl ac os oes gennych symptomau haint anadlol fel COVID-19 ac nid ydych yn teimlo’n ddigon da i fynd i’r gwaith. Efallai y bydd ei bolisi absenoldeb salwch neu absenoldeb arbennig yn berthnasol ichi.

Os na allwch chi gael tâl salwch gan eich cyflogwr, efallai y byddwch chi’n gallu cael Tâl Salwch Statudol o bedwerydd diwrnod eich absenoldeb salwch.

Mae rhagor o wybodaeth am Dâl Salwch Statudol ar gael ar gov.uk.