English

1. Cyflwyniad

Gall Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau (Maes) gynnau ymdeimlad o ryfeddod, tanio dychymyg ac ysbrydoli dysgwyr i dyfu mewn gwybodaeth, dealltwriaeth a doethineb. Mae’r Maes hwn yn ysgogi dysgwyr i ymwneud â’r materion pwysicaf sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys cynaladwyedd a newid cymdeithasol, ac yn gymorth i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli a disgrifio’r gorffennol a’r presennol.

Mae’r Maes hwn yn cwmpasu daearyddiaeth; hanes; crefydd, gwerthoedd a moeseg; astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Mae’r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, ond hefyd mae ganddyn nhw eu corff penodol eu hunain o wybodaeth a sgiliau. Yn ogystal, gall dysgwyr gael eu cyflwyno i ddisgyblaethau cysylltiedig eraill, megis y clasuron, economeg, y gyfraith, athroniaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg a chymdeithaseg, os a lle bydd hynny’n briodol.

Mae’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn wedi’i fynegi mewn pum datganiad sy’n cefnogi a chadarnhau ei gilydd, ac ni ddylid eu hystyried fel datganiadau ar wahân. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Mae’r Dyniaethau yn ganolog i ddysgwyr ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd. Mewn cyd-destunau cyfoes a hanesyddol, gall ymchwilio ac archwilio’r profiad dynol yn eu hardal eu hunain a gweddill Cymru, yn ogystal ag yn y byd ehangach, fod o gymorth i ddysgwyr ddarganfod eu treftadaeth a datblygu ymdeimlad o le a chynefin. Gall hyn hefyd hyrwyddo dealltwriaeth o’r ffordd y mae pobl Cymru, ei chymunedau, ei hanes, ei diwylliant, ei hamgylchedd naturiol a'i thirwedd, ei hadnoddau a’i diwydiannau yn cydberthyn i weddill y byd. Yn ei dro bydd ystyried safbwyntiau gwahanol o gymorth i hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru, ac fel rhan o hanesion Cymru. Gyda’i gilydd, bydd y profiadau hyn o gymorth i ddysgwyr werthfawrogi cymaint rhan ydyn nhw o gymuned ryngwladol ehangach, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a allai eu hysgogi i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau.

Mae’n bwysig fod dysgwyr yn myfyrio ar effaith eu gweithredoedd a gweithredoedd pobl eraill, a sut y dylanwadir ar y gweithredoedd hyn gan ddehongliadau o hawliau dynol, gwerthoedd, moeseg, athroniaethau, a safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol. Trwy gael eu hannog i ymwneud ag amrywiaeth o fydolygon, ynghyd â’u parchu a’u herio, hefyd trwy ddeall sut i ymarfer eu hawliau democrataidd, gall dysgwyr ddychmygu dyfodol posib a gweithredu’n gymdeithasol. Bydd y math hwn o ymwneud beirniadol â heriau a chyfleoedd lleol, cenedlaethol a byd-eang, o’r gorffennol a’r presennol, o gymorth i ddysgwyr ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn mewn bywyd a gwaith.

Wrth iddyn nhw archwilio eu hardal leol a Chymru, yn ogystal â’r byd ehangach, gall dysgwyr ddatblygu sail gadarn o wybodaeth am gysyniadau daearyddol, hanesyddol, crefyddol, anghrefyddol, busnes, ac astudiaethau cymdeithasol, ynghyd â dealltwriaeth ohonyn nhw. Gall yr archwilio hwn ysgogi dysgwyr i gymryd rhan mewn gwahanol ddulliau ymholi, gwerthuso’r dystiolaeth y byddan nhw’n ei chanfod, a chymhwyso a mynegi eu canfyddiadau yn effeithiol. Bydd y profiadau hyn, oddi mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth, o gymorth iddyn nhw ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes.

Mae’n bwysig fod gan ddysgwyr gyfleoedd i drafod ac archwilio eu safbwyntiau personol ar fydolygon crefyddol ac anghrefyddol, heriau moesol a materion cynhwysiant cymdeithasol. Yn ogystal, gall cyfleoedd i archwilio’r byd naturiol, yn lleol, ledled Cymru a thu hwnt, fod o gymorth iddyn nhw feithrin ymdeimlad o le ac o les. Bydd y profiadau hyn o gymorth i ddatblygu gwydnwch yn y dysgwyr, magu annibyniaeth a chynyddu hunan-hyder a hunan-werth. Gall hyn gefnogi datblygu unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

  • Nesaf

    Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig