Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Peilot Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru

Rydym wedi datblygu Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd yn cefnogi ysgolion i greu addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith o ansawdd uchel.

Yn dilyn cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru, rydym bellach yn treialu’r wobr hon.

Y wobr

Nod Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru yw cefnogi pob ysgol a lleoliad gyda dysgwyr 3 i 16 oed. Bydd yn cefnogi datblygiad gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith pwrpasol a pherthnasol ar draws y cwricwlwm.

Mae Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru (GAGC) yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd yn disodli Marc Gyrfa Cymru.

Mae gan y GAGC dri cham, a phob un gyda ffocws gwahanol.

Cam 1 - Arweinyddiaeth

Mae’r cam hwn yn ymwneud â llunio a chynnal yr ymrwymiad i arwain datblygiad gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith.

Y meini prawf yw:

  • Mae’r ysgol wedi gwneud ymrwymiad ffurfiol i ennill Cam 1 Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru ac wedi creu cynllun gweithredu/rhestr wirio ar gyfer ei gyflawni
  • Mae gan yr ysgol weledigaeth a strategaeth ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith sydd wedi’u nodi mewn polisi penodol ar ei chyfer
  • Mae gan yr ysgol gynllun ar gyfer monitro, adolygu a gwerthuso gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn rheolaidd i gefnogi datblygiad parhaus a chyfraniad addysg a phrofiadau o’r fath at welliant cyffredinol yr ysgol
  • Mae’r ysgol wedi nodi’r rolau y mae eu hangen i hwyluso datblygiad effeithiol o gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith
  • Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddyrannu adnoddau digonol ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ac i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n effeithiold
Show more

Cam 2 - Datblygiad

Mae’r cam hwn yn ymwneud â gwireddu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn y cwricwlwm trwy ddysgu proffesiynol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac addysgu a dysgu effeithiol.

Y meini prawf yw:

  • Mae’r ysgol wedi gwneud ymrwymiad ffurfiol i ennill Cam 2 Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru ac wedi creu cynllun gweithredu/rhestr wirio ar gyfer ei gyflawni
  • Mae’r ysgol wedi cwblhau archwiliad cynhwysfawr o’i darpariaeth gyfredol o gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith gan ystyried canllawiau cwricwlwm Llywodraeth Cymru a meini prawf y wobr hon
  • Mae’r staff sy’n arwain ar gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn cynnal ymrwymiad blynyddol i’w dysgu proffesiynol eu hunain, ac mae’r ysgol yn nodi anghenion dysgu staff yn y maes hwn ac yn anelu at eu diwallu’n briodol ac o fewn cyfnod rhesymol
  • Mae dysgwyr yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddylunio, gweithredu a gwerthuso gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith
  • Caiff rhieni a gofalwyr eu cydnabod fel partneriaid yn natblygiad gyrfa dysgwyr a chânt eu cefnogi’n dda gan yr ysgol
  • Mae’r ysgol yn cynnal rhwydwaith o gysylltiadau busnes a chymunedol, a chyn-fyfyrwyr pan fo hynny’n briodol, i wella cyfleoedd sy’n gysylltiedig â phrofiad gwaith i ddysgwyr
  • Mae’r ysgol yn cydweithio ag ysgolion eraill, colegau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch a sefydliadau dysgu seiliedig ar waith, pan fo hynny’n briodol, i ddarparu parhad yn y ddarpariaeth o gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ac i godi safonau yn y maes hwn ar y cyd
  • Mae’r ysgol yn dethol gwybodaeth ac adnoddau sy’n cyfrannu at ddysgu ac addysgu effeithiol ac yn gwneud defnydd effeithiol o adnoddau a gwasanaethau Gyrfa Cymru
  • Mae darpariaeth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yr ysgol fel a ganlyn:
    • Wedi’i chynllunio gan gyfeirio’n benodol at ganllawiau cwricwlwm Llywodraeth Cymru
    • Yn eang a chytbwys, yn darparu cyfleoedd a phrofiadau dysgu sy’n briodol i oedran a datblygiad i bob dysgwr, yn defnyddio ystod o ddulliau dysgu gyrfa, ac wedi’i hintegreiddio o fewn y cwricwlwm
Show more

Cam 3 - Effaith

Mae’r cam hwn yn ymwneud ag arddangos effaith ym maes gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith.

Y meini prawf yw:

  • Mae’r ysgol wedi gwneud ymrwymiad ffurfiol i ennill Cam 3 Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru ac wedi creu cynllun gweithredu/rhestr wirio ar gyfer ei gyflawni
  • Mae’r ysgol yn sicrhau bod dysgwyr wedi’u paratoi’n dda ar gyfer cyfleoedd dysgu allweddol ym maes gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl
  • Mae darpariaeth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yr ysgol yn gwneud gwahaniaeth amlwg i ddealltwriaeth a sgiliau gyrfa dysgwyr a’u dysgu ar draws y cwricwlwm
  • Mae darpariaeth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yr ysgol yn mynd i’r afael ag anghenion pob dysgwr a grŵp o ddysgwyr, yn enwedig y rhai sy’n profi stereoteipio, anfantais a gwahaniaethu
  • Mae darpariaeth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yr ysgol yn galluogi dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus a phontio’n llwyddiannus i gyrchfannau a werthfawrogir yn bersonol. (Uwchradd yn unig)
Show more

Y peilot

Pwy sy’n cymryd rhan?

Ym mis Mehefin 2023, gwahoddwyd ysgolion a lleoliadau i wneud cais i gymryd rhan yng nghynllun Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru. Fe wnaethon ni gynnig 38 o lefydd i ysgolion a lleoliadau ledled Cymru.

Mae’r ysgolion a’r lleoliadau yn cynnwys:

  • 5 ysgol cynradd
  • 5 ysgol gydol oes (dysgwyr oed cynradd ac uwchradd)
  • 21 ysgol uwchradd
  • 5 ysgol arbennig
  • 2 uned cyfeirio disgyblion

Pa mor hir fydd y peilot yn para?

Bydd y peilot yn rhedeg o fis Medi 2023 tan 2026.

Beth fydd yn digwydd yn ystod y peilot?

Bydd ysgolion a lleoliadau sy’n cymryd rhan yn y peilot yn cwblhau pob un o’r tri cham.

Bydd ein Cydlynwyr Cwricwlwm yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion a’r lleoliadau. Gyda’i gilydd, byddan nhw’n datblygu’r model gorau ar gyfer Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru.

Byddwn yn datblygu ac yn mireinio:

  • Dull Asesu
  • Tystiolaeth
  • Dogfennaeth
  • Gofynion dysgu proffesiynol

Byddwn hefyd yn archwilio’r ymrwymiad amser sydd ei angen i ymgymryd â’r wobr.

Yn dilyn y peilot, rydym yn gobeithio lansio’r wobr yn genedlaethol.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gyrfaoedd yn y cwricwlwm

Dysgwch am addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn y Cwricwlwm i Gymru a chael gafael ar offer a gwybodaeth i gefnogi eich gwaith cynllunio.