Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru

Rhannu Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ar Facebook Rhannu Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru Ar Twitter Rhannu Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru Ar LinkedIn E-bost Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru dolen

Consultation has concluded

Panel annibynnol yw Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru a sefydlwyd ym mis Mawrth i asesu’r problemau, y cyfleoedd, yr heriau a’r amcanion ar gyfer sicrhau system drafnidiaeth gynaliadwy, integredig ac aml-ddull yn y gogledd.

Mae’r Comisiwn yn mabwysiadu agwedd aml-ddull, gan edrych ar y rhanbarth yn ei gyfanrwydd i ystyried sut y gellir newid dulliau teithio mewn ardaloedd trefol a gwledig. Mae cylch gwaith y Comisiwn yn cwmpasu ardaloedd Awdurdod Lleol Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae’r Comisiwn yn ystyried ymyriadau o wahanol feintiau a all alluogi newid dulliau teithio i ddulliau teithio a chludo nwyddau mwy cynaliadwy. Mae’r Comisiwn eisiau i’r gwelliannau hyn gynnig dewisiadau yn hytrach na’r car preifat trwy system drafnidiaeth sy’n gwneud bywyd yn well i bawb yn y rhanbarth, mewn ardaloedd trefol a gwledig ac sy’n cefnogi taith y rhanbarth i sero net.

Hyd yma, cyhoeddwyd Adroddiad Interim (Mehefin 2023) a Datganiad Cynnydd (Ionawr 2023) gan y Comisiwn, sydd ar gael yma: https://www.llyw.cymru/comisiwn-trafnidiaeth-gogledd-cymru.

  • Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio pum munud i gynnig eich adborth ar y prosiect trwy gwblhau’r arolwg a ddarperir.

    Bydd eich sylwadau a’ch adborth yn ein helpu i sicrhau bod argymhellion terfynol y Comisiwn o’r budd a’r addasrwydd mwyaf i bobl y gogledd, ac yn cynrychioli pawb. Mae hefyd yn gyfle gwych i chi godi unrhyw faterion trafnidiaeth yn eich ardal leol y gellir ymchwilio iddynt ymhellach a mynd i’r afael â nhw lle bynnag y bo’n bosibl.

    Mae’r arolwg ar gael gan ddefnyddio’r tab isod.

    18 Awst 2023 yw dyddiad cau swyddogol yr ymgynghoriad ar-lein, ac felly byddem yn ddiolchgar pe gallech gynnig eich adborth cyn y dyddiad hwn.