Ymchwiliad i’r fframwaith deddfwriaethol sy’n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg

Ymchwiliad i’r fframwaith deddfwriaethol sy’n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg

Inquiry4

 

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad i’r cymorth a roddir i ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg gan Lywodraeth Cymru o ran polisi, deddfwriaeth a chyllid. Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y gofyniad ar awdurdodau lleol i lunio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ymhlith pethau eraill.

 

Mae’r ymchwiliad hwn yn cael ei arwain gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, sy’n gyfrifol am drafod y dystiolaeth sy’n dod i law, yn ogystal â llunio’r adroddiad a gwneud argymhellion. Mae dau rapporteur o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad, gan adrodd yn ôl yn rheolaidd i’r Pwyllgor hwnnw.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau