Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 187
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 31/01/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 3 a 7
gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.29 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4, 5 a
6 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(10 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.21 Gofynnwyd y ddau
gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog yr Economi Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth
ddiweddaraf am ddatblygiadau mewn perthynas â Fferm Gilestone yn dilyn y
Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 29 Ionawr 2024? Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Alun
Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y
goblygiadau i Gymru o ran y cytundeb i adfer llywodraeth ddatganoledig yng
Ngogledd Iwerddon? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.27 Atebwyd gan Weinidog yr Economi Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin
Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r
wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau mewn perthynas â Fferm Gilestone yn
dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 29 Ionawr 2024? Atebwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y
Cyfansoddiad Alun Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y
goblygiadau i Gymru o ran y cytundeb i adfer llywodraeth ddatganoledig yng
Ngogledd Iwerddon? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.56 Gwnaeth
Jayne Bryant ddatganiad am - Wythnos Lleoliadau Annibynnol (29 Ionawr i 4
Chwefror). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17(iii) mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) NDM8466 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii), yn cytuno y dylai trafodion Cyfnod 2 Bil
Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gael eu hystyried gan Bwyllgor o’r Senedd
Gyfan. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.58 NDM8466 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii), yn cytuno y dylai trafodion Cyfnod
2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gael eu hystyried gan Bwyllgor o’r
Senedd Gyfan. Bil Senedd Cymru
(Aelodau ac Etholiadau) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Biliau Cydgrynhoi NDM8472 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Adolygiad cyfyngedig o
weithdrefnau Biliau Cydgrynhoi', a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26C, fel y nodir yn Atodiad A
i adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.58 NDM8472 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Adolygiad
cyfyngedig o weithdrefnau Biliau Cydgrynhoi', a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26C, fel y nodir yn Atodiad A
i adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG NDM8434 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG, ar ffurf
corff rheoleiddio. 2. Yn nodi mai diben y
Bil fyddai: a) sefydlu corff
rheoleiddio proffesiynol ar gyfer GIG Cymru i ddiffinio'r safonau proffesiynol
a ddisgwylir gan reolwyr GIG Cymru a bod yn lle i droi ar gyfer y rhai sy'n
teimlo nad yw'r safonau hynny wedi cael eu bodloni gan unrhyw reolwr unigol GIG
Cymru, a byddai ganddo'r pŵer i rybuddio, cosbi neu dynnu unrhyw reolwr
GIG Cymru oddi ar ei gofrestr a gynhelir; b) diffinio beth yw
rheolwr GIG Cymru a chynnal cofrestr o reolwyr GIG Cymru; ac c)
ei gwneud yn ofynnol i holl reolwyr y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r
corff rheoleiddio proffesiynol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.59 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8434 Mabon ap Gwynfor
(Dwyfor Meirionnydd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y
GIG, ar ffurf corff rheoleiddio. 2.
Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a)
sefydlu corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer GIG Cymru i ddiffinio'r safonau
proffesiynol a ddisgwylir gan reolwyr GIG Cymru a bod yn lle i droi ar gyfer y
rhai sy'n teimlo nad yw'r safonau hynny wedi cael eu bodloni gan unrhyw reolwr
unigol GIG Cymru, a byddai ganddo'r pŵer i rybuddio, cosbi neu dynnu
unrhyw reolwr GIG Cymru oddi ar ei gofrestr a gynhelir; b)
diffinio beth yw rheolwr GIG Cymru a chynnal cofrestr o reolwyr GIG Cymru; ac c)
ei gwneud yn ofynnol i holl reolwyr y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r
corff rheoleiddio proffesiynol Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-06-1359 a deiseb P-06-1362 ynghylch cymorth ar gyfer costau gofal plant NDM8467 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi'r deisebau
canlynol ynghylch cymorth ar gyfer costau gofal plant: a) deiseb ‘P-06-1359 Dylid
cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng
Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr’ a gasglodd 10,820 o lofnodion; a b)
deiseb 'P-06-1362
Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i'r cynnig gofal plant newydd yn
Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024' a
gasglodd 407 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.19 NDM8467 Jack Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi'r deisebau canlynol ynghylch cymorth ar gyfer costau gofal plant: a)
deiseb ‘P-06-1359
Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio
yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr’ a gasglodd 10,820 o
lofnodion; a b)
deiseb 'P-06-1362
Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i'r cynnig gofal plant newydd yn
Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024' a
gasglodd 407 o lofnodion. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2022-23 - Gohiriwyd Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Y tu ôl i’r llenni: Gweithlu’r diwydiannau creadigol - Ail-drefnwyd o 24 Ionawr 2024 NDM8458 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol ‘Y tu ôl i’r llenni: Gweithlu’r diwydiannau creadigol’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2023. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2024. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.11 NDM8458 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a
Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Y tu ôl i’r llenni: Gweithlu’r diwydiannau
creadigol’, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 18 Hydref 2023. Nodyn: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2024. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad ardrethi busnes NDM8469 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu bod
Llywodraeth Cymru yn torri’r gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40
y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden yn y gyllideb ddrafft
ar gyfer 2024-2025. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i adfer y gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant ar
gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden er mwyn cefnogi busnesau a
diogelu swyddi. Cefnogwyr Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu’r
ffaith bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, a hynny er
gwaethaf y ffaith ei bod werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real nag ydoedd
adeg ei gosod yn 2021: a) yn darparu pecyn o
gymorth ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £384 miliwn; b) yn rhoi cap o 5 y
cant ar y cynnydd yn sgil chwyddiant i'r lluosydd ardrethi annomestig; ac c) yn darparu rhyddhad
o ran ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y
pumed flwyddyn yn olynol, gan adeiladu ar y cymorth sydd werth bron i £1 biliwn
a ddarparwyd ers 2020-21. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Ychwanegwch pwynt
newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu ymhellach
at setliad cyllid presennol Trysorlys y DU nad yw'n ystyried anghenion
Cymru. Gwelliant 3 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i symud oddi wrth ardrethi annomestig, cyhoeddi amserlen ar gyfer eu
gwaith, a sicrhau bod map ffordd ar gyfer pontio allan o ardrethi
annomestig yn cael ei ddarparu yn ogystal ag opsiynau ar gyfer system newydd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.55 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8469 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu bod Llywodraeth
Cymru yn torri’r gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant ar
gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden yn y gyllideb ddrafft ar gyfer
2024-2025. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i adfer y gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant ar gyfer y sector
manwerthu, lletygarwch a hamdden er mwyn cefnogi busnesau a diogelu swyddi. Cefnogwyr
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu’r ffaith bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth
Cymru ar gyfer 2024-25, a hynny er gwaethaf y ffaith ei bod werth £1.3 biliwn
yn llai mewn termau real nag ydoedd adeg ei gosod yn 2021: a) yn darparu pecyn o gymorth ar gyfer ardrethi
annomestig sydd werth £384 miliwn; b) yn rhoi cap o 5 y cant ar y cynnydd yn sgil chwyddiant
i'r lluosydd ardrethi annomestig; ac c) yn darparu rhyddhad o ran ardrethi annomestig i
fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y pumed flwyddyn yn olynol, gan
adeiladu ar y cymorth sydd werth bron i £1 biliwn a ddarparwyd ers 2020-21. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2
ei ddad-ddethol. Gwelliant 3 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud oddi wrth
ardrethi annomestig, cyhoeddi amserlen ar gyfer eu gwaith, a sicrhau bod map
ffordd ar gyfer pontio allan o ardrethi annomestig yn cael ei ddarparu yn
ogystal ag opsiynau ar gyfer system newydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8469 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu’r ffaith bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth
Cymru ar gyfer 2024-25, a hynny er gwaethaf y ffaith ei bod werth £1.3 biliwn
yn llai mewn termau real nag ydoedd adeg ei gosod yn 2021: a) yn darparu pecyn o gymorth ar gyfer ardrethi
annomestig sydd werth £384 miliwn; b) yn rhoi cap o 5 y cant ar y cynnydd yn sgil chwyddiant
i'r lluosydd ardrethi annomestig; ac c) yn darparu rhyddhad o ran ardrethi annomestig i
fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y pumed flwyddyn yn olynol, gan
adeiladu ar y cymorth sydd werth bron i £1 biliwn a ddarparwyd ers 2020-21. 2. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i symud oddi wrth ardrethi annomestig, cyhoeddi
amserlen ar gyfer eu gwaith, a sicrhau bod map ffordd ar gyfer pontio
allan o ardrethi annomestig yn cael ei ddarparu yn ogystal ag opsiynau ar gyfer
system newydd.
Gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Darlledu rygbi'r Chwe Gwlad NDM8470 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y
sylwadau a wnaed gan Syr John Whittingdale AS, Gweinidog Gwladol yr Adran dros
Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y byddai Llywodraeth y DU yn edrych eto
ar y digwyddiadau a rhestrir pe bai Senedd Cymru yn dadlau’n gryf iawn o
blaid hynny. 2.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys gemau rygbi’r chwe gwlad yn y categori am
ddim at ddibenion darlledu. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.25 NDM8470 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod y sylwadau a wnaed gan Syr John Whittingdale AS, Gweinidog Gwladol
yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y byddai Llywodraeth y DU
yn edrych eto ar y digwyddiadau a rhestrir pe bai Senedd Cymru yn dadlau’n
gryf iawn o blaid hynny. 2.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys gemau rygbi’r chwe gwlad yn y categori am
ddim at ddibenion darlledu. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.56 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8468 Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr) Methiant
y galon – Mae arloesi yn achub bywydau Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.01 NDM8468 Sarah Murphy
(Pen-y-Bont ar Ogwr) Methiant
y galon – Mae arloesi yn achub bywydau |